Chwyldro Hwngari (1956)

Gwrthryfel yn erbyn llywodraeth Gweriniaeth Pobl Hwngari oedd Chwyldro Hwngari, 1956 a barhaodd o 23 Hydref hyd 10 Tachwedd 1956. Cychwynnodd fel gwrthdystiad gan filoedd o fyfyrwyr a orymdeithiodd trwy ganol Budapest i adeilad y Senedd. Ceisiodd carfan o'r myfyrwyr ddarlledu eu gofynion o tu fewn i'r adeilad radio, ond cawsant ei rhwystro a'u dal. Pan fynnodd y torfeydd tu allan i'r myfyrwyr gael eu rhyddhau, dechreuodd Heddlu Diogelwch y Wladwriaeth (ÁVH) saethu ar y torfeydd tu allan o tu fewn i'r adeilad. Ymledodd y newyddion yn gyflym gan esgor ar anhrefn a thrais trwy'r brifddinas.

Chwyldro Hwngari
Enghraifft o'r canlynolgwrthdaro Edit this on Wikidata
Dyddiad1956 Edit this on Wikidata
Rhan oy Rhyfel Oer Edit this on Wikidata
Dechreuwyd23 Hydref 1956 Edit this on Wikidata
Daeth i ben10 Tachwedd 1956 Edit this on Wikidata
LleoliadGweriniaeth Pobl Hwngari Edit this on Wikidata
Yn cynnwysthe siege of Hungarian Radio Edit this on Wikidata
GwladwriaethHwngari Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Hwngari gyda'r arfbais gomiwnyddol wedi ei thorri allan. Daeth y faner hon yn symbol o'r chwyldro.

Ymledodd y gwrthryfel yn gyflym ar draws Hwngari, a chwympodd y llywodraeth. Trefnwyd y bobl yn filisiâu, gan frwydo yn erbyn yr ÁVH a lluoedd Sofietaidd. Daeth llywodraeth newydd i rym a ddatganodd ei bwriad i encilio o Gytundeb Warsaw ac ail-sefydlu etholiadau rhydd. Erbyn diwedd mis Hydref daeth y brwydro i ben bron.

Wedi iddynt ddatgan parodrwydd i drafod enciliad gan luoedd Sofietaidd, newidiodd y Politburo ei feddwl a dechreuodd dinistrio'r chwyldro. Ar 4 Tachwedd, goresgynnwyd Budapest ac ardaloedd eraill o'r wlad gan yr Undeb Sofietaidd. Parhaodd gwrthsafiad Hwngaraidd hyd 10 Tachwedd. Bu farw dros 2,500 o Hwngariaid a 700 o luoedd Sofietaidd yn y gwrthdaro, a bu ffoi 200,000 o Hwngariaid fel ffoaduriaid.