Hwngari

gweriniaeth heb arfordir yng nghanol Ewrop

Gweriniaeth dirgaeëdig yng nghanolbarth Ewrop yw Gweriniaeth Hwngari neu Hwngari. Mae Slofacia i'r gogledd; yr Wcráin i'r gogledd-ddwyrain; Rwmania i'r dwyrain; Serbia, Croatia a Slofenia i'r de; ac Awstria i'r gorllewin. Mae'r Hwngariaid yn galw eu hunain yn Magyar (Magyarország).

Hwngari
Magyar Köztársaság
ArwyddairThink Hungary more than expected Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad, gwlad OECD Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlOnogurs, Hungarians Edit this on Wikidata
Lb-Ungarn.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Ungaria.wav, Hu-Magyarország.ogg Edit this on Wikidata
PrifddinasBudapest Edit this on Wikidata
Poblogaeth9,603,634, 9,599,744 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Rhagfyr 1000 (cannot be confirmed by other sources) Edit this on Wikidata
AnthemIsten, áldd meg a magyart Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethViktor Orbán Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hwngareg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolyr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Arwynebedd93,011.4 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
GerllawNeusiedl Lake, Afon Donaw, Ipoly, Tisza, Afon Drava, Llyn Balaton, Rába Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSlofacia, Wcráin, Rwmania, Serbia, Croatia, Slofenia, Awstria Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47°N 19°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Hwngari Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Hwngari Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Hwngari Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethTamás Sulyok Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Hwngari Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethViktor Orbán Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$181,848 million Edit this on Wikidata
CMC y pen$37,128 Edit this on Wikidata
Arianforint Edit this on Wikidata
Canran y diwaith8 ±1 %, 4.2 %, 4.2 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.35 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.846 Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Llwyth y Magyar a ymsefydlodd Hwngari fel gwlad a chenedl yn y 9g.

Yn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hi'n rhan o'r Ymerodraeth Awstro-Hwngariaidd ac yn gynghreiriad i'r Almaen. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ymwahanodd Awstria a Hwngari i fod yn wledydd annibynnol. Yn 1919 ffurfiwyd Gweriniaeth Sofietaidd Hwngari, a'i harweinydd oedd Béla Kun. Ond byr fu ei pharhad oherwydd trechodd lluoedd arfog Rwmania y weriniaeth Sofietaidd yn 1919 a newidiwyd y llywodraeth.

Yn yr Ail Ryfel Byd roedd Hwngari yn gynghreiriad i'r Almaen unwaith yn rhagor a'r Natsiaid a reolai'r wlad.

Ar ôl y rhyfel collodd Hwngari y diriogaeth ychwanegol a roddwyd iddi gan yr Almaen. Yn 1949 troes Hwngari yn weriniaeth "ddemocrataidd" gyda llywodraeth gomiwnyddol. Yn 1956, bu gwrthryfel mawr yn erbyn comiwnyddiaeth ond ymyrodd yr Undeb Sofietaidd gyda tanciau. Roedd hi dan gomiwnyddiaeth rhwng 1945–1989. Roedd Hwngari yn aelod o Gytundeb Warsaw o'r 1950au hyd y 1990au.

Gwleidyddiaeth Hwngari heddiw golygu

Heddiw mae hi'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd a phleidleisiodd o blaid Cyfansoddiad Ewrop yn 2005/2006. Yn 2010 etholwyd Viktor Orbán yn brif weinidog.

Ym mis Mehefin 2018, newidiodd Senedd Hwngari gyfansoddiad y wlad i'w gwneud hi'n anoddach i fewnfudwyr fynd i mewn.[1] Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, protestiodd miloedd o bobol yn Budapest yn erbyn polisïau llywodraeth genedlaetholgar Hwngari.[2]

Gwleidyddiaeth golygu

Arlywydd Hwngari yw arweinydd y wlad a'r Prif Weinidog sy'n arwain Senedd Hwngari ym Mwdapest.

Siroedd Hwngari golygu

Siroedd Hwngari a'u prifddinasoedd

  • Bács-Kiskun (Kecskemét)
  • Baranya (Pécs)
  • Békés (Békéscsaba)
  • Borsod-Abaúj-Zemplén (Miskolc)
  • Csongrád (Szeged)
  • Fejér (Székesfehérvár)
  • Győr-Moson-Sopron (Győr)
  • Hajdú-Bihar (Debrecen)
  • Heves (Eger)
  • Jász-Nagykun-Szolnok (Szolnok)
  • Komárom-Esztergom (Tatabánya)
  • Nógrád (Salgótarján)
  • Pest (Budapest)
  • Somogy (Kaposvár)
  • Szabolcs-Szatmár-Bereg (Nyíregyháza)
  • Tolna (Szekszárd)
  • Vas (Szombathely)
  • Veszprém (Veszprém)
  • Zala (Zalaegerszeg)

Siroedd Trefol

  • Békéscsaba
  • Debrecen
  • Dunaújváros
  • Eger
  • Győr
  • Hódmezővásárhely
  • Kaposvár
  • Kecskemét
  • Miskolc
  • Nagykanizsa
  • Nyíregyháza
  • Pécs
  • Salgótarján
  • Sopron
  • Szeged
  • Székesfehérvár
  • Szekszárd
  • Szolnok
  • Szombathely
  • Tatabánya
  • Veszprém
  • Zalaegerszeg

Daearyddiaeth golygu

Mae Hwngari yn wastad gan bennaf. Mae'r Afon Donaw yn ffurfio rhan o ffin gogledd-orllewinol Hwngari gyda Slofacia, ac yna'n llifo i'r de drwy Budapest, gan rannu Hwngari yn ddau ranbarth cyffredinol. Ym mis Hydref 2001 cafodd pont olaf y Donaw a ddinistriwyd yn yr Ail Ryfel Byd ei hailagor gan Brif Weinidog Slofacia a Phrif Weinidog Hwngari a'r Comisiynydd Ewropeaidd Günter Verheugen. Cydariannwyd ailgodi'r bont gan raglen Phare yr UE gyda €10 miliwn. Budapest, y ddinas fwyaf yw'r brifddinas a hefyd yn ganolfan ddiwylliannol, economaidd a ddiwydiannol Hwngari. Mae'r wlad yn llawn trefi baroc hardd, adeiladau canoloesol, ffynhonnau thermol a thros fil o lynnoedd. Mae gan Hwngari aeafau oer iawn a hafau cynnes iawn, gyda gwanwyn a hydref mwyn.

Amgylchedd golygu

Parc Cenedlaethol Hortobágy yw mecca adara Ewrop a'r lle i ganfod Ceiliog y Waun – un o adar mwyaf y byd.

Demograffeg golygu

Proffil ethnig: Hwngariaid (96.6%) – 13 lleiafrif a gydnabyddir ac a gofrestrwyd yn swyddogol: Almaenwyr, Sipsiwn, Croatiaid, Slofaciaid, Rwmaniaid, Bwlgariaid, Groegwyr, Pwyliaid, Armeniaid, Rutheniaid, Serbiaid, Wcrainiaid, Slofeniaid – a ddiogelir yn arbennig yn y Cyfansoddiad – fel cydran o wladwriaeth Hwngari; hawl i gynrychiolaeth yn y Senedd wedi ei goleddu yn y Cyfansoddiad ac yn Neddf Lleiafrifoedd 1993.

Diwylliant golygu

Hwngari oedd mamwlad Franz Liszt, Béla Bartók a Zoltán Kodály, a ysbrydolwyd gan y traddodiadau gwerin cenedlaethol cyfoethog. Yn y 19g cynhyrchodd Hwngari ei gyfansoddwr brodorol pwysig cyntaf, Ferenc Erkel, a gyfansoddodd anthem genedlaethol Hwngari a'r opera Hwngaraidd gyntaf. Mae Hwngari yn wlad gerddorol iawn; mae ei chwaraewyr fiolin a phiano yn adnabyddus yn fyd-eang. Mae gan Hwngari mwy na 5000 o lyfrgelloedd cyhoeddus a mwy na 100 o amgueddfeydd cyhoeddus ledled y wlad. Cenedl bron di-Saesneg yw Hwngari o hyd, a di-Almaeneg. Dan y Sofietwyr roedd hi'n fraint i bob plentyn methu ei gwrs Rwsieg yn llwyr.

Bwyd a diod golygu

Mae danteithion lleol yn cynnwys halaszle (cawl pysgod), goulash, jokai bableves (cawl ffa) a hideg gyumolcsleves (cawl ceirios oer). Cynhyrchir cwrw da a brandi cryf yn y wlad.

Hwngari hoyw golygu

Mae gan Hwngari sin hoyw cynhenid, gellir clywed actiau drag ar lwyfan yn canu a pherfformio yn Hwngareg yn lle y trosleisio caneuon Saesneg a geir yn aml dros Ewrop. Sin hoyw ar gyfer Hwngariaid ydyw, dim fel ym Mhrag lle mae'r diwidiant rhyw yn dominyddu.

Enwogion golygu

Dyn o Hwngari oedd László Bíró, dyfeisydd yr ysgrifbin.

Dolenni allanol golygu

  1. "Tynhau rheolau ffoaduriaid yn Hwngari". Golwg360. 20 Mehefin 2018. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2019.
  2. "Protestiadau yn erbyn llywodraeth genedlaetholgar Hwngari". Golwg360. 22 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2019.