Ci Baset
Helgi sy'n tarddu o Ffrainc yw'r Ci Baset.[1]
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Màs | 32 cilogram |
Enw brodorol | Basset Hound |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Datblygodd y brîd hwn yn Ffrainc a chafodd ei gadw gan y bonedd yn Ffrainc a Gwlad Belg i hela ysgyfarnogod, cwningod, a cheirw yn wreiddiol ac yn hwyrach adar, llwynogod, ac anifeiliaid eraill. Mae'n helgi araf a phwyllog, gyda llais dwfn a ffroen dda.[2]
Mae'r Ci Baset yn fyr ei goesau ac yn esgyrnfawr, ac mae ganddo glustiau hirion, llipa a chôt fer o flew sydd yn gymysgedd o ddu, melyn, a gwyn. Mae ganddo daldra o 30 i 36 cm (12 i 14 modfedd) ac yn pwyso 18 i 27 kg (40 o 60 o bwysau).[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [basset-hound].
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) basset hound. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Medi 2014.