Llwynog

mamal yn nheulu'r Canidae

Anifail ysglyfaethus yw'r llwynog neu cadno sy'n perthyn i deulu'r Canidae ynghyd â bleiddiaid a chŵn. Y llwynog coch yw'r math mwyaf cyffredin o ddigon, ac mae ei gynffon drwchus a'i flewyn coch yn olygfa gyfarwydd yng nghefn gwlad Cymru. Cigysydd yw'r llwynog, ac mae ganddo ddannedd miniog i ddal a bwyta ei fwyd. Mae'n bwyta cwningod, adar, llygod a nifer o anifeiliaid bach eraill. Mae amaethwyr yn gweld y llwynog fel pla gan ei fod yn lladd rhai anifeiliaid fferm, yn benodol ieir ac ŵyn; i'r perwyl hwnnw bu hela llwynogod yn draddodiad hir yng Nghymru. Gwaharddwyd hela llwynogod â chŵn yng Nghymru a Lloegr drwy ddeddf gwlad yn y flwyddyn 2005; er hynny mae tystiolaeth nad yw'r traddodiad wedi dod i ben yn llwyr.[1] Mae'r llwynog yn ddiarhebol o gyfrwys a gellir defnyddio cadno neu llwynog i ddisgrifio rhywun cyfrwys neu dwyllodrus. Defnyddir cadno o ddiwrnod hefyd i ddisgrifio diwrnod "twyllodrus", pan fo'r tywydd yn braf yn y bore ond yn troi'n annifyr yn ystod y dydd. Bu'r llwynog yn rhan bwysig o draddodiadau a llên gwerin Cymru ar hyd y canrifoedd, fel y blaidd. Yn fwy diweddar mae soned fyw R. Williams Parry, Y Llwynog, yn un o hoff gerddi Cymraeg pobl Cymru.[2] Llwynog enwocaf y Gymraeg, fodd bynnag, yw Siôn Blewyn Coch, a ymddangosodd gyntaf yn Llyfr Mawr y Plant ddechrau'r ugeinfed ganrif ac a fu wedyn yn brif gymeriad yn un o ffilmiau cynharaf S4C, Siôn Blewyn Coch a grëwyd ar gyfer Nadolig 1986, ac a ailddarlledwyd droeon ers hynny.

Perthynas â Dyn golygu

  • Enwau Personol:

Cerrig Arysgrifenedig yng Nghymru (Ifor WIlliams) Ar hyd a lled Cymru, mae hen gerrig beddi yn dyddio’n ôl bron i ddwy fil o flynyddoedd, yn cyfeirio at enwau’r ymadawedig ac weithiau eu crefftau. Mae un o’r rhai mwyaf adnabyddus i’w cael ger traeth y Foryd yn Llanfaglan, sydd a defnydd tra gwahanol iddi heddiw. Cafodd ei hymgorffori yn ddiweddarach i ystrwythur yr adeilad fel lintel uwchben drws yr ‘Hen Eglwys’ neu eglwys Sant Baglan. Ar y garreg yma mae’r arysgrif FILI LOVERNII ANATEMORI, sef ‘[maen] Anatemorus fab Lovernius’. Mae'r gair Anatemorus yn dod o'r hen air Celtaidd Anatiomaros (ystyr anatio- yw enaid a -maros yw mawr, felly eneidfawr) ar lafar, yr Athro Gwyn Thomas. Ffurf ar y gair Cymraeg llywern ydi Lovernius (y modd genidol yw Lovernii) a’i ystyr yw ‘llwynog’. Mae gair tebyg i hwn i’w gael hyd heddiw yn y Llydaweg a’r Gernyweg, sef louarn ‘llwynog’. Nid oes neb yn sicr o ble daeth y garreg i Lanfaglan, gan nad yw hi’n garreg leol.[3]

Enwau lleoedd golygu

Mae Cronfa Ddata Enwau Lleoedd Melville Richards yn rhestry rhai cannoedd o enwau lleoedd gellid eu priodoli i'r rhywogaeth hon Vulpes vulpes trwy o leiaf pedwar enw Cymraeg cyfoes neu hanesyddol, sef llwynog, cadno, madyn a llywern. Fe mapiwyd dosbarthiad y bedair ar wefan Llên Natur [1] Archifwyd 2021-12-13 yn y Peiriant Wayback.. Yn fras, enw gogleddol yw 'llwynog', ac enw deheuol yw 'cadno'. Ydi 'madyn' (sydd, er yn ogleddol, â dosbarthiad pontiol rhwng de a gogledd) ar dafod lleferydd yn rhywle o hyd? Mae 'llywern/llywyrn' hefyd â dobarthiad eang, efallai yn awgrymu mai dyma'r enw gwreiddiol, tybiaeth a gadarnheir gan louarn y Llydaweg. Mae'n debyg nad yw 'llywern' a'i amryiwadau yn bod heddiw chwaith yn yr iaith lafar ond cedwir meddwl agored serch hynny.

  • Hela

Mae hela'r llwynog fel pla ac am adloniant (anodd weithiau gwahaniaethu) yn mynd yn ôl canrifoedd. Mae R. Williams Parry yn cyfleu rhamant yr arferiad.

  • Bownti

Yn yr 19g. talwyd bownti gan Y Plwyf am ladd llwynog (ymhlith nifer o 'blaoedd' eraill)

  • Cotiau a stoliau ffwr

Sgil gynnyrch y ddau uchod oedd rhain.

Llwynogod Gwlad a Thref golygu

Dyma addasiad o ysgrif gan Twm Elias[4] sy'n darlunio rhai rhesymau ac oblygiadau trefoli diweddar y llwynog:

"Yn ôl yn 2010 bu cryn dipyn o son am lwynog a ymosododd ar ddau blentyn bach yn Llundain. Aeth yn ddadl eitha poeth rhwng y rhai oedd am ddifa pob llwynog trefol rhag ofn i’r un peth ddigwydd eto, a’r rhai oedd yn credu na ddylsid gor-ymateb. Mae'n anarferol iawn i lwynog ymosod ar blentyn, ond ddim yn unigryw o bell ffordd.
Mi ymosodwyd ar fabi 3 mis oed oedd yn cysgu ar soffa mewn tŷ yn Dartford, de Llundain (2002) ac ymosodiad arall yn Croydon yn 1996 – ar fabi 5 mis oed. Yn yr achos yn Dartford, dod i mewn o’r ardd wnaeth y llwynog hwnnw hefyd - anwybyddu’r fam oedd yn cysgu ar gadair arall gerllaw, a cheisio llusgo’r babi allan o’r tŷ. Pan glywodd y tad, oedd yn y gegin, sgrechiadau’r babi a’r fam a rhedeg drwodd – yn fan’o oedd y llwynog yn sefyll ac yn edrych arno fo, fel petae o’n d’eud: ‘Be ’di’r holl ffys!? ’Mond dwad i nol y pryd têc awê ’ma ydw i’!
Dydych chi byth yn clywed am lwynogod gwledig yn ymosod ar blant. Ond, wrth gwrs, mae rheiny wedi hen ddysgu bod pobl cefn gwlad yn betha peryg ofnadwy ac i’w hosgoi ar bob cyfri. Ond mewn trefi, lle mae unrhyw fywyd gwyllt yn rhywbeth i’w groesawu, mae’rhen gadno yn cael dipyn mwy o barch a chroeso. Mae rhai pobl wrth eu boddau yn eu gwylio nhw, a’u bwydo nhw – ac yn falch iawn o gael teulu o lwynogod yn ymgartrefu dan y cwt mewn gardd swbwrbaidd. Be mae hynny’n ei wneud ydi dysgu’r llwynogod trefol i golli eu hofn o bobol a dwad yn ryw hanner dof.
A dyna lle mae’r broblem - oherwydd dydi hi ddim yn bosib dofi llwynog – ddim fel ci. Mae pob ci yn tarddu o’r blaidd, sy’n greadur cymdeithasol a chydweithredol, am fod helamewn pac yn angenrheidiol i ddal a lladd creaduriaid mawr. Roedd natur gymdeithasol y blaidd yn ei gwneud yn bosib i ddynion cynnar, dros 50,000 o flynyddoedd yn ôl i 'imprintio’ ar flaidd ei fod o’n rhan or pac dynol ac mai y dyn oedd yr arweinydd bob tro. Ond nid dyna natur teulu’r llwynog, sy’n hela adar, llygod, chwilod a phryfid genwair.
Mae nhw’n byw mewn grwpiau teuluol llai ac, fel arfer, yn hela’n unigol. Dydyn nhw ddim mor hawdd i’w himprintio’n felly – dyna pam na ddofwyd yr un o’r teulu yma gan ddyn erioed.
Rhaid derbyn felly mai peth peryg iawn ydi gwneud ffrind o’r creadur bach coch gwyllt hwn yng ngwaelod yr ardd. Oherwydd, be ddigwyddith ydi y bydd o’n colli ei ofn o bobol. A be wedyn pan glywith o sŵn neu ogla prae bychan blasus mewn tŷ yn y stryd nesa? Mae o yn mynd i siawnsio ei lwc, yn naturiol – fel mae yn ei natur i wneud!
Beth i’w ’neud felly? Wel, waeth i chi heb a meddwl am geisio difa llwynogod y dinasoedd – mi fyddai hynny’n hollol amhosib yn ymarferol ac mi fyddai’r fath syniad yn cynddeiriogi rhai. Y wers o’r holl firi yma ydi na ddylsech adael eich babi o fewn cyrraedd llwynog nag unrhyw leidr arall chwaith. Yng ngwledydd Affrica a rhannau o dde Asia mae pobol wedi hen arfer efo creaduriaid rheibus a pheryg (fel sgorpion neu lew). Hyd yn oed yn Awstralia fe gafodd fy nghyfnither, pan yn fabi bach, ei hachub pan welwyd peithon fawr yn dechra dringo i’r goets ati hi."

Ynys Môn golygu

Mae hanes y llwynog ym Môn yn haeddu sylw arbennig oherwydd mai ynys yw.

The constant cavalcade of carts on Madyn Hill (Amlwch) always held my attention in those early days.[5]

MADYN (= llwynog?): ydi hyn yn arwydd bod y llwynog yn bresennol ym Môn yn y cyfnod y defnyddid y gair madyn am yr anifail ?]

  • Dyma gyfieithiad o grynodeb yng nghylchgrawn Nature in Wales:
Nodwyd nifer o weithiau ymddangosiad llwynogod ym Môn yn y cylchgrawn hwn. Yn fyr, cofnodwyd un yn 1961 ac ers hynny lladdwyd dros fil. Nid yw mor hysbys fodd bynnag nad hwn oedd cofnod cyntaf y llwynog ar yr ynys. Bu fy nghymydog Tomos Roberts o Drefdraeth yn ymchwilio cofnodion plwyf. Yn adroddiadau y wardeiniaid eglwys rhai plwyfi bu'n gweld cyfeiriadau at ddifa llwynogod yn ystod ail hanner yr 18g. Arferid talu swllt am bob llwynog a laddwyd. Cofnodwyd i 41 llwynog cael eu lladd rhwng 1768 a 1787. Yn anffodus mae bwlch yn yr adroddiadau thwng 1788 ac 1820. Nid oes yr un cyfeiriad at lwynogod yn syth wedyn, sef 1821 ymlaen. Gallasai cofnodion cyffelyb plwyfi eraill yn y sir amlygu mwy o hanes llwynogod Môn y cyfnod ac o bosib awgrymu dyddiad difodiant.
Mae'n werth nodi bod Amlwch yn agos at Fynydd Parys, man cychwyn yr ymddangosiad presennol.
  • Dywed H. E. Forrest yn ei Vertebrate Fauna of North Wales (cyhoeddwyd yn 1907) nad yw’r llwynog yn gynhenid i Fôn ond from time to time a few pairs have been introduced but as they were always killed very soon by the inhabitants, they never became established there.[6]
  • Mae rhai yn priodoli presenoldeb llwynogod ym Môn i godi‘r pontydd:
Doedd yna ddim llwynogod ym Môn yn 1600. A ddaethant yno ar ôl i Mr Telford godi ei Suspension Bridge ym 1826?[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.s4c.co.uk/bydarbedwar/c_archif.shtml
  2. http://www.na-nog.com/site/product.aspx?productuid=214217[dolen marw]
  3. Bwletin Llên Natur rhif 6
  4. Addasiad o sgript Twm Elias, Galwad Cynnar, gyda chaniatad Radio Cymru
  5. Cofnodion TG Walker am ei blentyndod yn Amlwch, Môn (yn Hope, BD (2005) A Commodious Yard (Gwasg Carreg Gwalch)
  6. L.S.V. Venables: Nature in Wales
  7. Ken ac Eirlys Griffiths ym Mwletin Llên Natur rhifyn 40
Chwiliwch am llwynog
yn Wiciadur.