Ci sy'n tarddu o Ddalmatia yw'r Ci Dalmataidd[1] neu'r Dalmatiad.[1] Yn hanesyddol fe'i ddefnyddir fel ci cerbyd i hebrwng a gwarchod coetsis a dynnir gan geffylau, a defnyddir hefyd fel gwarchotgi, ci rhyfel, helgi, ci bugail, masgot i'r frigâd dân, a chi perfformio.[2]

Ci Dalmataidd
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
GwladCroatia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ci Dalmataidd

Mae'n gi tenau gyda blew byr o liw gwyn gyda smotiau duon. Genir y cenawon yn wyn a datblyga'r smotiau ychydig o wythnosau'n hwyrach. Mae ganddo daldra o 48 i 58 cm (19 i 23 modfedd) ac yn pwyso 23 i 25 kg (50 i 55 o bwysau). Yn gyffredinol, ci addfwyn a chyfeillgar yw'r Dalmatiad.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [Dalmatian].
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Dalmatian (breed of dog). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Medi 2014.