Croatia
Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop ar lan y Môr Canoldir yw Gweriniaeth Croatia neu Croatia (Croateg: Republika Hrvatska ). Mae'n gorwedd yn y Balcanau gan ffinio â Slofenia, Hwngari, Serbia a Bosnia-Hertsegofina. Y brifddinas yw Zagreb. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd gan Croatia boblogaeth o 3,871,833 (2021)[1].
Republika Hrvatska | |
Arwyddair | Llawn bywyd |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth unedol, un o wledydd môr y canoldir, gwlad |
Prifddinas | Zagreb |
Poblogaeth | 3,871,833 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Lijepa naša domovino |
Pennaeth llywodraeth | Andrej Plenković |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Croateg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Ddwyrain Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, post-Yugoslavia states, Schengen Area, Ardal yr ewro |
Arwynebedd | 56,594 km² |
Gerllaw | Môr Adria, Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Slofenia, Hwngari, Serbia, Bosnia a Hertsegofina, Montenegro, Liberland |
Cyfesurynnau | 45.25°N 15.46667°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Croatia |
Corff deddfwriaethol | Senedd Croatia |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Croatia |
Pennaeth y wladwriaeth | Zoran Milanović |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Croatia |
Pennaeth y Llywodraeth | Andrej Plenković |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $68,844 million, $70,965 million |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 17 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.46 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.858 |
Daearyddiaeth
golygu- Prif: Daearyddiaeth Croatia
Mae Croatia wedi ei lleoli yng Nghanolbarth a De-ddwyrain Ewrop, yn ffinio gyda Hwngari i'r gogledd-ddwyrain, Serbia i'r dwyrain, Bosnia a Herzegovina i'r de-ddwyrain, Montenegro i'r de-ddwyrain, y Mor Adriatig i'r de-orllewin a Slofenia i'r gogledd-orllewin. Mae'n gorwedd yn bennaf rhwng lledredau 42° a 47° G a hydredau 13° a 20° Dn. Mae rhan o'r diriogaeth sydd bellaf i'r de sy'n amgylchynnu Dubrovnik yn allglofan ymarferol sy'n gysylltiedig â'r cyfandir gan stribyn byr o arfordir sy'n perthyn i Bosnia a Herzegovina o amgylch Neum.
Hanes
golygu- Prif: Hanes Croatia
Credir fod hanes Croatia yn cychwyn gyda'r Illyriaid ac mai nhw oedd trigolion gwreiddiol y tir cyn i'r Ymerodraeth Rufeinig goresgyn a gwladychu Croatia. Ymsefydlodd llwyth Celtaidd y Boii yn Pannonia cyn diwedd y mileniwn cyntaf cyn Crist. Sefydlwyd talaith Illyria gan y Rhufeinwyr yn y ganrif gyntaf cyn Crist. Mae prif ddinasoedd yr arfordir fel Pula, Split a Dubrovnic i gyd yn hen iawn. Dalmatia a Pannonia oedd yr enw ar y ddwy ran o'r wlad. Y dystiolaeth amlycaf am eu presenoldeb yw Palas Diocletian yn Split (300 OC) a'r amffitheatr fawr yn Pula.
Cyrhaeddodd y Croatiaid (llwyth Slafaidd) yn heddychol fel milwyr hur i'r Rhufeinwyr o'r 7c ymlaen mewn gwlad o ddiboblogwyd gan y "barbariaid". Erbyn 820 roedd Dugaeth Croatia yn unedig dan Vladislav; parhaodd rhai o drefi'r arfordir i siarad Lladin ac wedyn Eidaleg am ganrifoedd. Y brenin cyntaf oedd Tomislav, a goronwyd yn 925.
Roedd y wlad yn annibynnol tan 1089 pan ddaeth yn rhan o deyrnas Hwngari - ond gyda senedd (Sabor) annibynnol. Er gwaethaf ymyrraeth Fenis, y Mongoliaid a'r Croesgadwyr, parhaodd dominyddiaeth yr Hwngariaid tan 1526. Erbyn brwydr Mohacs yn 1526 roedd y rhan fwyaf o'r wlad yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid.
Ymateb syml senedd y Croatiaid oedd derbyn Archddug Ferdinand o Awstria fel brenin yn 1527, a wthiodd yr Otomaniaid yn ôl yn ystod y ganrif ganlynol. Rhoddodd yr Habsbwrgiaid Croatia yn hanner "Hwngaraidd" eu hymerodraeth, a hynny erbyn 1699.
Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ffurfwyd Iwgoslafia yn 1918, a bu Croatia dan awdurdod Beograd am y tro cyntaf. Rhoes yr Ail Ryfel Byd rym i'r Ustase, (mudiad ffasgaidd lleol) o dan y Natsïaid, ac wedi'r rhyfel cafwyd rheolaeth dan Tito a'r Comiwnyddion am 45 mlynedd.
Yn 1991, ar ôl naw ganrif dan reolaeth ei chymdogion, daeth Croatia yn wlad annibynnol eto. Croesawyd y genedl newydd gan bedair blynedd o ryfel, cyflafanau, a dros chwarter miliwn o ffoaduriaid.
Mae Croatia erbyn heddiw yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, NATO, Sefydliad Masnach y Byd (WTO), a'r Undeb Ewropeaidd.
Diwylliant
golygu- Prif: Diwylliant Croatia
Oherwydd ei lleoliad daearyddol, mae Croatia yn cynrychioli cyfuniad o bedwar diwylliant gwahanol. Mae wedi bod yn groesffordd i ddylanwadau diwylliannol y gorllewin a'r dwyrain ers i'r Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol a'r Ymerodraeth Bysantaidd ymrannu - yn ogystal â diwylliannau Mitteleuropa a Môr y Canoldir.[240] Y mudiad Ilyraidd oedd y cyfnod mwyaf arwyddocaol yn hanes diwylliant y genedl, oherwydd i'r 19eg ganrif brofi'r allweddol i ryddhau'r iaith Croataidd a gweld datblygiadau nas gwelwyd eu math o'r blaen yn holl feysydd diwylliant a chelf.[43]
Economi
golygu- Prif: Economi Croatia
Mae Croatia yn cael ei hystyried gan y Cenhedledd Unedig fel economi incwm uchel. Mae data'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn dangos bod Cynnyrch Mewnwladol (GDP) enwol Croatia yn $53.5 billion, neu $12,863 per capita yn 2017, tra bod paredd grym pwrcasu y Cynnyrch Mewnwladol yn $100 billion, neu $24,095 per capita. Yn ôl data Eurostat, roedd PPS GDP Croatia yn 61% o'r cyfartaledd Ewropeaidd yn 2012.
Roedd twf real y Cynnyrch Mewnwladol yn 2007 yn 6.0 y cant. 5,895 HRK y mis oedd cyfartaledd cyflog gweithiwr yng Nghroatia yn Ionawr 2017, a chyfartaledd cyflog crynswth oedd 7,911 HRK y mis.[155] Yn Chwefror 2017, roedd cyfradd ddiweithdra gofrestredig Croatia yn 15.3 y cant.