Ci Mawr Denmarc
Ci gwaith mawr iawn sy'n tarddu o'r Almaen yw Ci Mawr Denmarc[1] neu'r Daniad Mawr.[1] Mae union darddiad y brîd yn ansicr, a cheir darluniadau o gŵn mawrion tebyg mewn celfyddyd yr Henfyd. Gellir ei ystyried yn un o'r molosgwn, grŵp o fridiau mawr a chydnerth. Datblygwyd y Daniad Mawr ar ei ffurf fodern tua 400 mlynedd yn ôl yn yr Almaen i hela'r baedd gwyllt. Mae'n debyg i'r baeddgi hwn ymddangos drwy groesfridio'r Gafaelgi Seisnig â'r Bleiddgi Gwyddelig. Nid oes ganddo berthynas bendant â gwlad Denmarc: daw ei enw drwy'r Saesneg, Great Dane, o'r Ffrangeg, grand danois. Deutsche Dogge yw enw Almaeneg y brîd, a bellach fe'i elwir yn dogue allemand gan y Ffrancod.
Math o gyfrwng | brîd o gi |
---|---|
Math | ci |
Gwlad | yr Almaen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Saif y Daniad gwrywol mwy na 76 cm a'r ast mwy na 71 cm, ac mae'n pwyso tua 54 i 68 kg. Mae ganddo ben mawr, cul gyda gên sgwâr a chorff llydan ei frest gyda choesau hirion cryfion. Côt lefn, fer sydd ganddo, o liw du, melynllwyd, brith (gwyn gyda marciau duon), rhesog, llwydlas, neu fantell (gwyn gyda chlogyn ddu). Mae gan y Daniad o liw melynllwyd neu gôt resog fwgwd du ar ei wyneb.[2]
Brîd cyflym ac effro yw Ci Mawr Denmarc. Mae ganddo dymer addfwyn a chyfeillgar, a hefyd yn ddewr ac yn ddibynadwy. Cedwir heddiw fel ci anwes ffyddlon.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [Dane: Great Dane].
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Great Dane. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Medi 2016.