Cibwts Gifat Chaim (Ichwd)

cibwts

Mae Gifat Chaim (Ichwd) silladiad Saesneg, Givat Haim (Ihud) (Hebraeg: גבעת חיים (איחוד)‎, ynganner Gifat Chaim (Ichwd) llyth. "Bryn Bywyd", ysytyr Ihud yw 'undeb') yn Cibwts ger Hadera yn Israel. Lleolir hi o fewn ffiniau Cyngor Rhanbarthol Dyffryn Hefer. Ei phoblogaeth yn 2017 oedd, 1,088. Mae'r Cibwts wedi ei lleoli 38 km o ddinas Tel Aviv a 73 km o Jeriwsalem.[1]

Cibwts Gifat Chaim
Enghraifft o'r canlynolCibwts Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,176 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1932 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGivat Haim Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddGivat Haim Edit this on Wikidata
RhanbarthHefer Valley Regional Council Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ghi.org.il/info/kibutz/kibutz-001.htm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arwydd Givat Haim Ihud
Arwydd Givat Haim Ihud
 
Chaim Arlozorov a enwyd y Cibwts are ei ôl, 1933)

Sefydlwyd y cibwts gwreiddiol yn 1932 yn wreiddiol o dan yr enw Givat Gimmel ac fe'i enwyd ar ôl Chaim Arlozorov (sillefir hefyd Haim Arlosoroff), ysgrifennydd cenedlaethol y Asiantaeth Iddewig a lofruddiwyd ar y traeth yn Tel Aviv yn 1933 - efallai am iddo ddelio gyda'r Natsiaeth i wneud yn haws i Iddewon ymfudo i Balesteina.[2] Daeth y rhan fwyaf o'r aelodau gwreiddiol o ddwyrain a chanol Ewrop.[3]

Sefydlwyd y cibwts yn 1952 yn dilyn rhwyg athronyddol o fewn cibwts Givat Haim (a sefydlwyd yn 1932) gyda aelodau oedd yn cefnogi'r blaid asgell chwith Mapam yn mynd ati i greu cibwts Givat Haim (Meuhad), a ymunodd gyda mudiad HaKibbutz HaMeuhad, ac thrigolion oedd yn cefnogi'r blaid Mapam (plaid asgell chwith Meretz bellach yn ymadael i greu Givat Haim (Ihud), a ymunodd â mudiad Ihud HaKvutzot veHaKibbutzim oedd yn gysylltiedig â'r blaid Mapai (sef, y Blaid Lafur Israel, mwy chwith canol, bellach). Heddiw mae'r ddau gibwts yn aelodau o'r 'Mudiad Cibwts' ("Kibbutz Movement", HaTnu'a HaKibbutzit) sy'n uniad a grewyd yn 1999 o sawl gwahanol fath athronyddol o gibwts.

Cafwyd cymodi o fath rhwng y ddau gibwts yn 2012 gyda phenodi Eyal Nissan yn brif weithredwr ar y cyd.[4]

Economi

golygu

Yn ogystal ag amaethyddiaeth, mae'r cibwts yn gartref i Prigat[5], cwmni diod ysgafn fawr yn Israel.

Hynodrwydd

golygu

Un hynodrwydd o'r Cibwts yw iddo fod yn destun ffilmig addysgol gan Encyclopaedia Britannica Educational Corporation yn 1973, Israeli boy - life on a kibbutz[6] Yn y ffilm fer 15 munud dilynir bywyd un o blant y cibwts, a'i deulu o'r cyfenw Shamir.

Mae'r cibwts hefyd yn le magwyd y canwr Israeli, Ivri Lider, sydd yn hoyw ac wedi ymgyrchu dros hawliau hoyw.[7]

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. http://kibbutzimofisrael.netzah.org/givat-haim-ihud.php
  2. https://www.haaretz.com/jewish/.premium-1933-the-murder-of-chaim-arlosoroff-1.5280334
  3. http://www.ghi.org.il/cgi-webaxy/sal/sal.pl?lang=he&ID=196826_ghi&act=show&dbid=pages&dataid=info_kibutz_kibutz-001
  4. https://www.haaretz.com/warring-sister-kibbutzim-mend-fences-1.5282537
  5. https://www.prigat.co.il/
  6. https://www.youtube.com/watch?v=qETXnUQnM0M
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-11. Cyrchwyd 2019-05-02.