Prifddinas de facto gwladwriaeth Israel yw Caersalem ac weithiau Jeriwsalem neu Jerwsalem (Jerusalem yn Saesneg; Yerushaláyim, ירושלים yn Hebraeg Diweddar, ירושלם yn Hebraeg clasurol; al-Quds, القدس, yn Arabeg). Mae hi'n dref hynafol o bwysigrwydd crefyddol arbennig yn hanes Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Er bod yr Israeliaid yn hawlio Caerselem yn brifddinas Israel, yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae'n ddinas a feddianwyd gan yr Israeliaid yn anghyfreithlon. Mewn canlyniad nid yw'n cael ei chydnabod fel prifddinas Israel gan y mwyafrif llethol o wledydd y byd (gweler isod).

Jerwsalem
Jerusalem Dome of the rock BW 14.JPG
Emblem of Jerusalem.svg
Math dinas, dinas fawr, prifddinas, cyngor dinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Shalim Edit this on Wikidata
He-Jerusalem.ogg, ArAlquds.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth 919,438 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Pennaeth llywodraeth Moshe Lion Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Greater Jerusalem Edit this on Wikidata
Sir Bwrdeistref Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Israel Israel
Arwynebedd 125.42 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 754 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Ramat Rachel, Mevaseret Zion, Beit Zayit, Hizma, Al-Ram, Ramallah, Even Sapir, Beit Jala, Abu Dis, Ora, Bethlehem Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 31.78°N 35.22°E Edit this on Wikidata
Cod post 91000–91999 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Municipality of Jerusalem Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Moshe Lion Edit this on Wikidata
Y Mur Gorllewinol a'r Gromen ar y Graig (Mosg Al-Aqsa) yng Nghaersalem

DaearyddiaethGolygu

Lleolir Caersalem ar fryniau o uchder canolig yng nghanol Bryniau Jwdea, tua 30 km i'r gorllewin o lannau gogledd-orllewinol y Môr Marw.

Mae Jerwsalem wedi ei lleoli ar ran deheuol llwyfandir ym Mynyddoedd y Judeaidd, sy'n cynnwys Mynydd yr Olewydd (Dwyrain) a Mynydd Scopus (Gogledd Ddwyrain). Uchder yr Hen Ddinas yw tua 760m (2,490 troedfedd). Amgylchynir Jerwsalem gan gymoedd ac afonydd sych (neu 'wadis'). Mae dyffrynoedd Kidron, Hinnom, a Tyropoeon yn croesi mewn ardal ychydig i'r de o Hen Ddinas Jerwsalem a rhed Dyffryn Kidron i'r dwyrain o'r Hen Ddinas gan wahanu Mynydd yr Olewydd a'r ddinas. Ar hyd ochr ddeheuol hen Jerwsalem mae Dyffryn Hinnom, mynwent serth sy'n gysylltiedig â storiau Beiblaidd am Gehenna, sy'n symbol o uffern.

Yn ystod y cyfnod Beiblaidd, roedd Jerwsalem wedi'i hamgylchynu gan goedwigoedd o goed almon, olewydd a phîn. Dros ganrifoedd o ryfela, dinistriwyd y coedwigoedd hyn. Mae ffermwyr yn rhanbarth Jerwsalem felly wedi adeiladu terasau cerrig ar hyd y llethrau i ddal y pridd yn ôl, nodwedd sy'n dal i fod yn eitha amlwg yn nhirlun Jerwsalem.

Bu'r cyflenwad dŵr bob amser yn broblem fawr yn Jerwsalem, fel y tystiwyd gan y rhwydwaith cymhleth o ddyfrffosydd, twneli, pyllau a chwistrellau hynafol yn y ddinas.

HanesGolygu

 
Heddweision Israel yn cwrdd â Legionnaire o'r Iorddonen ger Gat Mandelbaum (tua 1950).

Digwydd y cyfeiriadau cynharaf at Jeriwsalem yn llyfrau'r Hen Destament. Dywedir i Dafydd, ail frenin Israel, wneud y ddinas yn brifddinas ei deyrnas wedi iddo ei chipio oddi ar y Jebiwsiaid. Cipiodd Nebuchodnesar y ddinas a dygodd i ffwrdd y rhan fwyaf o'r trigolion yn gaethweision i Fabilon.

Gwelodd y ddinas sawl brwydr yn ystod y Croesgadau. Ffurfiwyd urdd Marchogion yr Ysbyty yno tua'r flwyddyn 1070.

CrefyddGolygu

Cyfeirir yn aml at Gaersalem yn yr Hen Destament. Cododd Solomon ei deml enwog yno i ddiogelu Arch y Cyfamod. Ar fapiau canoloesol lleolir y ddinas yng nghanol y byd a chredid y byddai'r Ail Ddyfodiad yn digwydd yn Nyffryn Jehoshaphat yn ymyl y ddinas a Jersiwsalem Newydd yn cael ei chodi.

Mae'r Iddewon yn ystyried dinistr Teml Herod Fawr yn y flwyddyn 70 gan y Rhufeiniaid dan Titus yn drychineb cenedlaethol a gofir hyd heddiw. Mae'r cysegrfan Islamaidd, Mosg Al-Aqsa - a elwir hefyd 'y Gromen ar y Graig' (yn gamarweiniol) - yn sefyll ar ei safle heddiw.

I'r Cristnogion mae Caersalem yn ddinas sanctaidd oherwydd ei lle amlwg ym mywyd Iesu Grist; y lle pwysicaf a gysylltir ag ef yw Eglwys y Beddrod Sanctaidd ar y bryn gorllewinol lle honodd yr ymerodr Cwstennin fod bedd Crist i'w gael. Mae'r Via Dolorosa yn dilyn y llwybr a gerddwyd gan Grist o lys Pontius Pilate i Fryn Calfaria.

Y ddinas heddiwGolygu

Heddiw mae tua 700,000 o bobl yn byw yn y ddinas ac mae'r amrywiaeth o genedlaethau, crefyddau a chymdeithas a geir yndi'n fawr iawn. Mae gan yr "Hen Ddinas", sydd yng nghanol y ddinas bresennol, fur o'i hamgylch. Rhennir y dref o gwmpas yr "Hen Ddinas" yn bedair ardal: un i'r Iddewon, un i'r Cristnogion, un i'r Armeniaid ac un arall i'r Mwslemiaid.

Tiriogaeth ddadleuolGolygu

Mae anghytundeb am statws y ddinas. Mae hi ar y llinell cadoediad rhwng Israel a'r Lan Orllewinol y cytunwyd arni yn Cytundeb Cadoediad 1949, ond mae Israel yn rheoli'r holl ddinas ac yn ôl cyfraith Israel hi yw prifddinas y wlad. Felly mae llywodraeth Israel a llawer o sefydliadau Iddewig eraill yno. Mae Penderfyniad 242 y CU yn galw ar i Israel "dynnu allan o'r diriogaeth a feddianwyd," Penderfyniad 237 yn gwrthod yr ychanegiad o'r ddinas i Israel a Phenderfyniad 405 yn cadarnhau fod Caersalem yn diriogaeth Balesteinaidd a feddianwyd. Mewn canlyniad nid yw'n cael ei chydnabod fel prifddinas Israel gan y mwyafrif llethol o wledydd y byd (lleolir llysgenhadaeth UDA yn Tel Aviv, er enghraifft).

Ar 6 Rhagfyr 2017, dywedodd Llywydd yr U.S. Donald Trump fod Jeriwsalem yn brifddinas Israel a chyhoeddodd ei fwriad i symud llysgenhadaeth America i Jeriwsalem, gan wrthdroi degawdau o bolisi'r Unol Daleithiau ar y mater. Beirniadwyd y symudiad yn hallt gan lawer o wledydd a chefnogwyd penderfyniad gan pob un o 14 aelod arall Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i gondemnio penderfyniad yr Unol Daleithiau.

CyfeiriadauGolygu

Cysylltiadau allanolGolygu