Ciro Alegría
Nofelydd yn yr iaith Sbaeneg o Beriw oedd Ciro Alegría (4 Tachwedd 1909 – 17 Chwefror 1967). Mae ei waith yn ymwneud â bywydau pobloedd brodorol Periw.
Ciro Alegría | |
---|---|
Ganwyd | Ciro Alegría Bazán 4 Tachwedd 1909 Sartimbamba District |
Bu farw | 17 Chwefror 1967 o trawiad ar y galon Chaclacayo District |
Dinasyddiaeth | Periw |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, nofelydd, gwleidydd, awdur storiau byrion, bardd, llenor, cyfieithydd, academydd |
Swydd | Member of the Chamber of Deputies of Peru |
Adnabyddus am | Broad and Alien is the World, Q5638014 |
Arddull | barddoniaeth |
Plaid Wleidyddol | Cynghrair Chwyldroadol Poblogaidd America, Popular Action |
Mudiad | North Group |
Priod | Dora Varona |
Plant | Gonzalo Alegría, Cecilia Alegría, Alonso Alegría, Ciro Alegría Varona |
Ganwyd yn Sartimbamba yn nhalaith Sánchez Carrión, Periw, a chafodd ei fagu yn ardal Huamachuco. Astudiodd yng Ngholeg Cenedlaethol San Juan yn Trujillo. Yn 1930 ymunodd ag ymgyrch yr Alianza Popular Revolucionaria Americana (neu'r Apristas) dros ddiwygiadau cymdeithasol er lles y brodorion. Cafodd ei garcharu ddwywaith, yn 1931 ac yn 1933, a fe'i alltudiwyd i Tsile yn 1934.[1]
Mae ei nofel gyntaf, La serpiente de oro (1935), yn portreadu bywyd y brodorion ar hyd Afon Marañón, a'i ail nofel, Los perros hambrientos (1938), yn disgrifio trafferthion y bugeiliaid brodorol yn ucheldiroedd Periw. Ei gampwaith ydy El mundo es ancho y ajeno (1941), stori epig am y frwydr dros dir rhwng llwyth o frodorion yr ucheldiroedd a thirfeddianwyr o dras Ewropeaidd. Cyhoeddodd hefyd gasgliad o straeon byrion, Duelo de caballeros (1963).[1]
Bu'n byw yn Unol Daleithiau America o 1941 i 1948. Bu farw yn Lima yn 57 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Ciro Alegría. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2019.