Clara Bow
Actores ffilm o'r Unol Daleithiau oedd Clara Gordon Bow (29 Gorffennaf 1905 – 27 Medi 1965). Daeth yn seren ffilmiau yn ystod oes ffilmiau mud y 1920au a pharhaodd yn llwyddiant ar ôl dyfodiad ffilmiau llafar yn 1929. Roedd hi'n enwog yn rhyngwladol fel eicon rhyw a daeth i ymgorffori'r ysbryd y Dau Ddegau Gwyllt. Ar anterth ei henwogrwydd (1928–9) hi oedd atyniad mwyaf ym myd ffilmiau.
Clara Bow | |
---|---|
Ganwyd | Clara Gordon Bow 29 Gorffennaf 1905 Brooklyn |
Bu farw | 27 Medi 1965 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm |
Priod | Rex Bell |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Fe'i ganwyd yn Brooklyn, Dinas Efrog Newydd yn 1905. Roedd hi'n 17 oed pan ymddangosodd gyntaf mewn ffilm – Down to The Sea in Ships (1922). Ymddangosodd Bow mewn 46 o ffilmiau mud ac 11 o ffilmiau llafar, gan gynnwys Mantrap (1926), It (1927), a Wings (1927).
Priododd yr actor Rex Bell ym 1931. Ddwy flynedd wedyn ymddeolodd Bow o'i gyrfa actio a daeth yn ranshwr yn Nevada. Rhyddhawyd ei ffilm olaf, Hoop-La, yn 1933. Bu farw Bow yn 1965 o drawiad ar y galon yn 60 oed.