Ffeminist a gwleidydd Sbaenaidd oedd Clara Campoamor (12 Chwefror 1888 - 30 Ebrill 1972) a oedd yn fwyaf adnabyddus am ei eiriolaeth dros hawliau ac etholfraint menywod yn y cyfnod a oedd yn arwain at ysgrifennu cyfansoddiad Sbaen ym 1931.

Clara Campoamor
GanwydCarmen Eulalia Campoamor Rodríguez Edit this on Wikidata
12 Chwefror 1888 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 1972 Edit this on Wikidata
Lausanne Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sbaen Sbaen
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, ysgrifennwr, cyfreithegwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
SwyddMember of the Cortes republicanas Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolRepublican Action, Y Blaid Radical Gweriniaethol Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Madrid ar 12 Chwefror 1888; bu farw yn Lausanne, y Swistir ac fe'i claddwyd ym Mynwent Polloe, Donostia, Gwlad y Basg.[1][2][3][4][5]

Crynodeb o'i gwaith golygu

Yn 13 oed, dechreuodd Campoamor weithio i deulu dosbarth gweithiol fel gwniadwraig. Yn ddiweddarach gweithiodd mewn nifer o swyddi i lywodraeth y wlad, cyn sicrhau mynediad i ysgol y gyfraith ym Mhrifysgol Madrid. Daeth yn weithgar mewn nifer o sefydliadau menywod cyn sefyll i gael ei hethol yn aelod o Gynulliad Cyfansoddiadol 1931, lle cafodd hi a dwy fenyw arall eu hethol er na allai menywod Sbaen bleidleisio ar y pryd. [6][7]

Bu Campoamor yn llwyddiannus yn 1927 yn argymell gwelliannau i'r cyfreithiau llafur plant a newidiadau mewn cyfraith etholiadol. Hi oedd y fenyw gyntaf i annerch cynulliad cyfansoddol Sbaen, yn Hydref, mewn araith yn rhybuddio aelodau gwrywaidd y cynulliad bod eu gwaharddiad parhaus o fenywod rhag pleidleisio yn groes i gyfraith natur.

Pan benderfynodd ei phlaid ei hun wrthwynebu rhoi'r bleidlais i fenywod; gadawodd y blaid a pharhaodd i eirioli dros etholfraint fel aelod annibynnol.[8]

 
Claddwyd Clara Campoamor ym Mynwent Polloe yn Donostia, Gwlad y Basg

Arweiniodd ei gwaith at warantu cydraddoldeb rhwng dynion a merched. Yn ddiweddarach collodd ei sedd seneddol a gwasanaethodd yn fyr fel gweinidog y llywodraeth cyn ffoi o'r wlad yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Bu farw Campoamor yn alltud yn y Swistir ac fe'i claddwyd ym Mynwent Polloe yn Donostia (San Sebastian).[9]

Yn ystod ei hoes bu'n aelod o'r Blaid Radical Gweriniaethol.

Dyfyniad golygu

Rwyf yn bell iawn oddi wrth comiwnyddiaeth a ffasgiaeth. Rwy'n Rhyddfrydwr! "La revolución española vista por una republicana", Espuela de Plata Editions, 2005, p. 5)[10]

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Lyceum Club Femenino am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb127077248. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb127077248. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Clara Campoamor Rodríguez". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Clara Campoamor". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. http://www.congreso.es/portal/page/portal/Congreso/Congreso/Iniciativas?_piref73_2148295_73_1335437_1335437.next_page=/wc/servidorCGI&CMD=VERLST&BASE=DIPH&FMT=DIPHXD1S.fmt&DOCS=1-1&DOCORDER=FIFO&OPDEF=Y&NUM1=&DES1=&QUERY=%2819960%29.NDIP.. dyddiad cyrchiad: 20 Ionawr 2020.
  3. Dyddiad marw: "Clara Campoamor Rodríguez". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Clara Campoamor". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Clara Campoamor". ffeil awdurdod y BnF. http://www.congreso.es/portal/page/portal/Congreso/Congreso/Iniciativas?_piref73_2148295_73_1335437_1335437.next_page=/wc/servidorCGI&CMD=VERLST&BASE=DIPH&FMT=DIPHXD1S.fmt&DOCS=1-1&DOCORDER=FIFO&OPDEF=Y&NUM1=&DES1=&QUERY=%2819960%29.NDIP.. dyddiad cyrchiad: 20 Ionawr 2020.
  4. Man geni: "Clara Campoamor Rodríguez". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. http://www.congreso.es/portal/page/portal/Congreso/Congreso/Iniciativas?_piref73_2148295_73_1335437_1335437.next_page=/wc/servidorCGI&CMD=VERLST&BASE=DIPH&FMT=DIPHXD1S.fmt&DOCS=1-1&DOCORDER=FIFO&OPDEF=Y&NUM1=&DES1=&QUERY=%2819960%29.NDIP.. dyddiad cyrchiad: 20 Ionawr 2020.
  5. Enw genedigol: https://www.abc.es/cultura/abci-sale-obra-periodistica-clara-campoamor-202003070045_noticia.html.
  6. Galwedigaeth: http://www.congreso.es/portal/page/portal/Congreso/Congreso/Iniciativas?_piref73_2148295_73_1335437_1335437.next_page=/wc/servidorCGI&CMD=VERLST&BASE=DIPH&FMT=DIPHXD1S.fmt&DOCS=1-1&DOCORDER=FIFO&OPDEF=Y&NUM1=&DES1=&QUERY=%2819960%29.NDIP.. dyddiad cyrchiad: 20 Ionawr 2020. http://www.congreso.es/portal/page/portal/Congreso/Congreso/Iniciativas?_piref73_2148295_73_1335437_1335437.next_page=/wc/servidorCGI&CMD=VERLST&BASE=DIPH&FMT=DIPHXD1S.fmt&DOCS=1-1&DOCORDER=FIFO&OPDEF=Y&NUM1=&DES1=&QUERY=%2819960%29.NDIP.. dyddiad cyrchiad: 20 Ionawr 2020. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 20 Rhagfyr 2022.
  7. Swydd: http://www.congreso.es/portal/page/portal/Congreso/Congreso/Iniciativas?_piref73_2148295_73_1335437_1335437.next_page=/wc/servidorCGI&CMD=VERLST&BASE=DIPH&FMT=DIPHXD1S.fmt&DOCS=1-1&DOCORDER=FIFO&OPDEF=Y&NUM1=&DES1=&QUERY=%2819960%29.NDIP.. dyddiad cyrchiad: 20 Ionawr 2020.
  8. "Clara Campoamor: sus grandes frases" – drwy La voz de Galicia.
  9. Pérez, Janet; Ihrie, Maureen (2002). The Feminist Encyclopedia of Spanish Literature: A-M (yn Saesneg). Greenwood Press. ISBN 9780313324444.
  10. Campoamor, Clara; Miranda, Neus Samblancat (2002-01-01). La revolución española vista por una republicana (yn Sbaeneg). Univ. Autònoma de Barcelona. ISBN 9788449022432.