Claus Schenk Graf von Stauffenberg
Swyddog yn y fyddin Almaenig a oedd a rhan amlwg yn yr ymgais i ladd Adolf Hitler fel rhan o Gynllwyn 20 Gorffennaf yn 1944 oedd Claus Philipp Maria Schenk Graf von Stauffenberg (15 Tachwedd 1907 - 21 Gorffennaf 1944).
Ganed von Stauffenberg i deulu uchelwrol a Chatholig yn Jettingen, rhwng Ulm ac Augsburg. Ymunodd a'r fyddin yn 1926, a thua'r un adeg daeth dan ddylanwad y bardd Stefan George.
Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, cymerodd ran yn yr ymosodiad ar Wlad Pwyl yn 1939. Ar 7 Ebrill 1943, anafwyd ef yn ddifrifol yn yr ymladd yng Ngogledd Affrica, a chollodd ei lygad chwith, ei law dde a dau fys oddi ar ei law chwith. Teuliodd tua chwe mis yn gwella o'i glwyfau. Erbyn hyn, roedd wedi dod yn rhan o fudiad y swyddogion oedd yn gwrthwynebu Hitler, a chyflwynwyd ef i Henning von Tresckow. Trefnwyd iddo gael ei drosglwyddo i'r Ersatzheer, y fyddin wrth gefn oedd yn gyfrifol am hyfforddi milwyr ar gyfer y ffrynt. Aeth i weithio ym mhencadlys yr Ersatzheer yn y Bendlerstrasse, Berlin, dan y Cadfridog Friedrich Olbricht, oedd yn rhan o'r cynllwyn yn erbyn Hitler.
Gwnaeth Stauffenberg nifer o ymdrechion i ladd Hitler. Ar 20 Gorffennaf 1944, roedd yn bresennol mewn cyfarfod gyda Hitler a swyddogion eraill ym mhencadlys Hilter yn y Wolfsschanze ger Rastenburg, yn awr Kętrzyn, yng Ngqwlad Pwyl. Daeth Stauffenberg a bom yn ei fag, gosododd ef dan y bwrdd a gadawodd yr ystafell. Ffrwydrodd y bom, a lladdwyd nifer o'r bobl yn y cyfardod, ond roedd Hitler ei hun yn gymharol ddianaf.
Llwyddodd Stauffenberg i adael y Wolfsschanze a dychwelyd i Ferlin, lle ceisiodd ef ag Olbricht weithredu ail ran y cynllun i gipio grym, trwy ddefnyddio'r fyddin i garcharu cefnogwyr. Fodd bynnag, pan ddaeth y newydd nad oedd Hitler wedi ei ladd, gwrthododd nifer o uchel-swyddogion weithredu yn ei erbyn. Cymerwyd Stauffenberg i'r ddalfa, a saethwyd ef ac Olbricht a swyddogion eraill yn y Bendlerstrasse yn gynnar y bore wedyn, tra caniatawyd i'r Cadfridog Ludwig Beck ei saethu ei hun.