Berlin
Prifddinas yr Almaen a dinas fwyaf y wlad gyda 3,520,031 o drigolion (ar 31.12.2015) yw Berlin.[1] Mae'n sefyll ar lannau afonydd Spree ac Havel yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Clofan dalaith Brandenburg, mae Berlin yn nalaith ffederal (Bundesland) yn ei rhinwedd ei hun yn ogystal â dinas.
![]() | |
![]() | |
Math |
sedd y llywodraeth, metropolis, prifddinas ffederal, taleithiau ffederal yr Almaen, Einheitsgemeinde yr Almaen, prifddinas, bwrdeistref trefol yr Almaen, dinas â miliynau o drigolion, Dinas-wladwriaeth ![]() |
---|---|
![]() | |
Cysylltir gyda |
Llwybr Ewropeaidd E55 ![]() |
Poblogaeth |
3,644,826 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Michael Müller ![]() |
Cylchfa amser |
Europe/Berlin ![]() |
Gefeilldref/i |
Los Angeles, Paris, Madrid, Istanbul, Warsaw, Moscfa, Dinas Brwsel, Budapest, Tashkent, Dinas Mecsico, Beijing, Jakarta, Tokyo, Buenos Aires, Prag, Windhoek, Llundain, Sofia, Tehran, Sevilla, Copenhagen, Kiev, Brasília, Santo Domingo, Alger ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Almaeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Ardal Fetropolitan Berlin/Brandenburg, crynhoad Berlin ![]() |
Sir |
Yr Almaen ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
891.12 km² ![]() |
Uwch y môr |
34 ±1 metr ![]() |
Gerllaw |
Spree, Großer Wannsee, Llyn Tegel, Havel, Dahme, Müggelsee, Aalemannkanal, Camlas Neukölln Ship, Camlas Luisenstadt, Camlas Teltow, Camlas Landwehr, Camlas Westhafen, Camlas Gosen, Tegeler Fließ, Berlin-Spandau Ship Canal ![]() |
Yn ffinio gyda |
Brandenburg, Ardal Barnim, Ardal Märkisch-Oderland, Ardal Oder-Spree, Ardal Dahme-Spreewald, Ardal Teltow-Fläming, Ardal Potsdam-Mittelmark, Potsdam, Ardal Havelland, Ardal Oberhavel, Kleinmachnow, Stahnsdorf ![]() |
Cyfesurynnau |
52.52°N 13.38°E ![]() |
Cod post |
10115–14199 ![]() |
DE-BE ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Abgeordnetenhaus of Berlin ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Governing Mayor of Berlin ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Michael Müller ![]() |
![]() | |
GwleidyddiaethGolygu
Ar ôl bod yn rhan o'r Mark Brandenburg, daeth Berlin yn dalaith ei hun ym 1920. Michael Müller yw'r Regierender Bürgermeister ("maer llywodraethol") ar hyn o bryd. (Gweler Meiri Berlin).
Hyd 1 Ionawr 2001 roedd 23 bwrdeistref yn y dref ond nawr does ond 12.
HanesGolygu
Sefydlwyd y dref tua 1200, ond roedd hi'n dwy dref ar y bryd: Berlin a Cölln. Daethon nhw yn un dref ym 1307. Beth bynnag, er fod Berlin yn dref eithaf hen, mae'n bennaf olion y deunawfed ganrif i'w weld.
Roedd llys brenhinoedd Prwsia yn Berlin, ond dechreuodd y dref dyfu'n gyflym yn y pedwaredd ganrif ar bymtheg ar ôl dod yn brif ddinas yr Ymerodraeth Almaenig ym 1871. Roedd hi'n brif ddinas yn ystod Gweriniaeth Weimar a rheolaeth y Natsiaid a chafodd ei dinistrio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ar ôl y Rhyfel, rhannwyd y ddinas yn ddwy. Roedd y rhan ddwyreiniol yn brif ddinas Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (Dwyrain yr Almaen), ond Bonn oedd prif ddinas Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (Gorllewin yr Almaen).
Roedd Gorllewin Berlin yn rhan o Orllewin yr Almaen, ac felly yn glofan yn nhiriogaeth Dwyrain yr Almaen. O ganlyniad, roedd hi'n bwysig yn ystod y Rhyfel Oer. Ar 26 Mehefin 1948 dechreuodd blocâd Berlin ac ar ôl hynny awyrgludiad Berlin. Ar 13 Awst 1961 dechreuwyd ar y gwaith o godi Mur Berlin.
Syrthiodd y mur ar 9 Tachwedd, 1989. Erbyn uniad yr Almaen y flwyddyn ddilynol doedd dim ond o olion y mur i'w weld.
DaearyddiaethGolygu
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
- Gweler hefyd: Amgueddfeydd Berlin.
- Alte Nationalgalerie
- Berliner Dom
- Berliner Fernsehturm
- Bode Museum
- Brandenburger Tor
- Brücke Museum
- Deutsche Oper
- Deutsches Theater
- Friedrichstadt-Palast
- Hamburger Bahnhof
- Neue Nationalgalerie
- Neues Museum
- Pergamonmuseum
- Rathaus Schöneberg
- Reichstag
- Rotes Rathaus
- Schloss Bellevue
- Schloss Charlottenburg
- Tŵr teledu
- Zoologischer Garten Berlin
EnwogionGolygu
- Alexander von Humboldt (1769-1859), fforiwr
- Albert Lortzing (1801-1851), cyfansoddwr
- Walter Gropius (1883-1969), pensaer
- Nelly Sachs (1891-1970), bardd a dramodydd
- Karl Dönitz (1891-1980), morwr ac Arlywydd yr Almaen
- Max Ehrlich (1892-1944), actor, awdur a chyfarwyddwr
- Marlene Dietrich (1901-1992), actores a chantores
- Nikolaus Harnoncourt (g. 1929), cerddor
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Ergebnisse Zensus 2011". Statistische Ämter des Bundes und der Länder (yn German). 31 May 2013. Cyrchwyd 31May 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
Dolenni allanolGolygu
- Gwefan swyddogol Berlin.de
- Gwybodaeth dwristiaeth swyddogol am Berlin
- Mapiau o Berlin, o 1738 hyd heddiw
- EXBERLINER – cylchgrawn Saesneg
- Pensaerniaeth Berlin
- Panoramau o'r ddinas
- 90 delwedd o Berlin yn yr 20fed ganrif
- Dwyrain Berlin Ddoe a Heddiw
- Oriel lluniau