Clint Boon
Cerddor o Loegr ydy Clinton David Boon (ganwyd 28 Mehefin 1959, Oldham, Swydd Gaerhirfryn).
Clint Boon | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1959 Oldham |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | troellwr disgiau, cerddor, cyflwynydd radio |
Arddull | independent music |
Gwefan | http://www.clintboon.com/ |
Gyrfa
golyguDaeth yn enwog fel aelod o'r Inspiral Carpets, a ymunodd yn 1986 - daeth sain nodweddiadol ei organ Farfisa yn un nodweddion y band. Wedi i'r Inspiral Carpets wahanu yn 1995, aeth Boon ymlaen i ffurfio The Clint Boon Experience gan rhyddhau dau albwm o dan yr enw - The Compact Guide to Pop Music and Space Travel (1999), a Life in Transition (2000). Yn y flwyddyn honno rhyddhaodd y sengl "Do What You Do (Earworm Song)", canodd Fran Healey, prif ganwr Travis ar y sengl hwn hefyd.