Cloc Gŵyl Casnewydd
Cloc celf yw Cloc Gŵyl Casnewydd, a elwir hefyd gan y llysenw "In the Nick of Time".[1] Fe'i elwir gan ei grëwr Andy Plant yn "hanner ffordd rhwng cloc gog a pheiriant espresso – yr unig cloc white-knuckle yn y byd".[2][3][4]
Codwyd y cloc ym 1991[3] ar gost o £100,000 i gynrychioli Casnewydd yng Ngŵyl Gerddi Glyn Ebwy ym 1992.[1] Wedi'r ŵyl, safodd y cloc yn Sgwâr John Frost, canol dinas Casnewydd, (Tachwedd 1992)[4] hyd iddo gael ei ddatgymalu yn 2007. Mae ar hyd o bryd mewn stordy gan y cyngor, ac nid yw wedi'i ail-godi eto oherwydd y cost uchel o'i gynnal.[3]
Cafodd ei ddylunio gan Andy Plant ac Ali Wood, wedi iddynt gael eu hysbrydoli gan Gloc Seryddol Prag a phensaernïaeth Fictoraidd Casnewydd.[4] Porth gorfoledd ag uchder o 30 troedfedd yw strwythur yr adeiladwaith, a wneir o ddur gwrthstaen.[2] Pob awr, roedd strwythur y cloc yn "cwympo", gan ddangos sgerbydau, diafol, cog, ac angylion y tu mewn i'r cloc.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Deans, David. "Newport Festival Clock to return", South Wales Argus, 13 Mawrth 2013.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) The Newport Clock. andyplant.co.uk. Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Cyfnod newydd i gloc celf Casnewydd. BBC (23 Mawrth 2013). Adalwyd ar 24 Mawrth 2013.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) In the Nick of Time. Public Monuments and Sculpture Association. Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.