Cloddfa Nant y Gamar

Yn y 18g agorwyd chwarel glai a thywod yn ardal Nant y Gamar, Mynydd y Gloddaeth, Creuddyn, Llandudno. Prin iawn yw'r olion ohoni bellach.

Hanes y fenter

golygu
 
Jwg Mason efallai o Nant y Gamar
 
Delwedd o ardal Nant y Gamar ger Llandudno a adweinir fel Mynydd Gloddaeth.

Efallai bod gennych chwi hen lestri 'Masons' fel y jwg ar y chwith. Wyddech chwi bod nifer o'r llestri yma wedii cael eu ffurfio o glai a thywod gwyn Nant y Gamar ar un adeg?

Archwiliwyd yr ardal gan George Maw F.G.S. yn wreiddiol yn 1853 a dychwelodd yn 1865 a chyhoeddwyd ei sylwadau yn y ‘Geographical Magazine’ y flwyddyn honno. Rhwng 1850 a 1880 cloddiwyd am dywod silicaidd gwyn, math o dywod cwarts a chlai gwyn a ddefnyddid yn y diwydiant i gynhyrchu gwydr a llestri mewn dwy fan yn Nant y Gamar, Llandudno. Ffurfiwyd y dyddodion o dywod a chlai mewn ceudyllau siap wy yn y garreg galch a gorchuddiwyd yr ardal gan haen o bridd a darnau o graig i ddyfnder o rhwng 10 a 40 troedfedd o ddyfnder, a thrwy hynny ‘doedd hi ddim yn bosib’ gweld y ceudyllau. ‘Does neb yn siwr sut y darganfuwyd y tywod a’r clai, ond y posibilrwydd yw iddynt ddod i’r golwg wrth dyllu am gerrig. Yn sicr, yn ystod tridegau y ganrif ddiwethaf darganfuwyd rhai haenau wrth saethu am gerrig. Ffurfiwyd y ceudyllau a dyddodion gydag erydiad y garreg galch. Mae’r ceudyllau yn hollol annibynnol oddi wrth y garreg galch. Maent yn ymdebygu i hen wynebau creigiau chwareli ond yn fwy llyfn ac mae hyn yn rhoi mwy o gred i’r ceudyllau gael eu ffurfio wrth i’r garreg galch ymdoddi’n raddol. Mae yna dystiolaeth bod rhai rhannau o wyneb y creigiau yng ngwaelod Chwarel Nant y Gamar wedi eu ffurfio ‘r un pryd â’r chwarel fechan ar Ffordd Bodafon ac yn rhoi cred i’r posibilrwydd bod ceudyllau eraill tebyg wedi bodoli.

Hanes y gwaith

golygu

Ar ben Nant y Gamar ble mae’r ffordd yn troi i’r chwith yn sydyn, ar rhyw uchder o 280 o droedfeddi uwchben y môr y dechreuwyd gweithio ar y ceudwll cyntaf, mae’n debyg tua 1850 a pharhaodd y gwaith am gyfnod o ddeg i bymtheg mlynedd. Ar ôl clirio’r wyneb gwelwyd bod yr haen o dywod silicaidd yn weddol ddwfn – rhwng 30 a 40 troedfedd ac mai tywod oedd y rhan helaethaf ohono. ‘Roedd y ceudwll ei hun yn 180 troedfedd mewn diamedr a 120 troedfedd o ddyfnder. Ychydig o ôl lliw oedd ar y tywod gwyn ac ‘roedd hynny’n diflannu wrth iddo sychu. Gwahaniaetha ansawdd y tywod o fan i fan gyda rhannau yn glai gwyn oedd ar brydiau yn dywodlyd ac weithiau’n llyfn yn debyg i caolin mewn gwead ac edrychiad. Cariwyd y clai a’r tywod o’r pwll drwy gynllun o raffau uwcben a phwlis mewn bwcedi ac oddi yno mewn troliau.

‘Roedd yr ail geudwll dipyn yn llai ac ar ochr y bryn tua 180 troedfedd o uchder, 100 troedfedd mewn diamedr a 110 troedfedd o ddyfnder. ‘Roedd yn cael ei wagio drwy fynedfa wedi ei thorri i mewn i’r bryn. ‘Roedd y fynedfa yn agos i’r brif fynedfa i’r chwarel a chariwyd y tywod a chlai oddi yno mewn wageni oedd yn rhedeg ar reiliau. Gellir dal i weld olion yr hen adeilad ger y brif fynedfa i’r chwarel.

Darganfuwyd ceudwll arall bychan yn cynnwys tywod a chlai ger Fferm Farm oedd tua 32 troedfedd mewn diamedr. Yn agos ato ‘roedd hen odyn galch sy’n awgrymu iddo gael ei ddarganfod pan godwyd cerrig oddi ar y bryn ar gyfer llosgi calch. Hefyd, darganfuwyd tywod gwyn a chlai ger Fferm Bodafon tra’n agor ffôs, ond ni chodwyd hwn. ‘Roedd adroddiad syrfewr yn awgrymu y gallai dyddodion cyffelyb yn bod ar neu wrth ymyl y Gogarth fawr a’r Gogarth Fach.

Mae cyfrifon Stad Mostyn am y flwyddyn 1856 yn dangos enwau Williamson ac eraill yn talu am ddefnyddio Pwll Tywod Nant y Gamar yn talu breindal o £86 8s 0d neu 1738 tunnell ar raddfa o swllt y dunnell. Yn 1859 talodd Smedley a’i Gwmni ganpunt o freindal. Enwau eraill a gysylltwyd â’r pwll oedd W I Joule,Jabez Jones, RF Steble, Thomas Smedley ac Edward Edwards.

Mae map Stad Mostyn o waith clai Nant y Gamar yn dangos ei fod yn cynnwys y cyfan o Nant y Gamar yn terfynu ar ochr ddwyreiniol a dehaeuol gan Ffordd Nant y Gamar, ac yn y dwyrain yn cynnwys ffermydd Castell y Gwylfryn a Pant y Ffynnon. Ffordd Bodafon oedd y terfyn gogleddol.

Yn sicr, daeth y gwaith o godi tywod a chlai i ben erbyn Tachwedd 1887 pan roddwyd tenantiaeth Caen Castell (safle’r gwaith clai) i Joseph Hobson o Nant y Gamar am rent o 10 swllt am y flwyddyn gyntaf ac yna am £1 10s 0d y flwyddyn.

Cariwyd y tywod gwyn a’r clai i’r traeth mewn troliau a’i lwytho ar longau bychain i’w gario i Runcorn a Lerpwl. ''Fflat''s oedd yr enw ar y math yma o longau gan ei bod yn bosib iddynt ddod i’r traeth ar ben llanw, oedd yn ei gwneud yn haws i lwytho a dadlwytho. Un o’r llongau yma y gwyddys iddi gario clai a thywod oedd y ''Sarah Lloyd'' llong o 33 tunnell, rhif 47042, a gofrestrwyd ym Miwmaris, a Chonwy oedd ei phorthladd cartref. David Lloyd adeiladodd hi ac ef oedd ei pherchennog. Enwyd y llong ar ôl ei wraig Sarah. Tybir mae’r ‘Sarah Lloyd’ oedd yr unig long i gael ei hadeiladu ym Mhen Morfa, Llandudno. Bu gan David Lloyd, oedd yn gapten llong ei hun, gysylltiadau â gwaith copr ar y Gogarth Fawr a chanddo les ar yr hen waith copr tua 1860. Ei fwriad oedd cario’r copr yn ei long, ond yn anffodus bu dirywiad mawr yn y diwydiant hwnnw, ac erbyn i’w long gael ei lansio yn 1863, bu’n rhaid iddo newid ei gynlluniau.

 
Cwch fflat yn paratoi i lwytho'r clai yn y bae

Gyda’r Capten William Lloyd wrth y llyw, hwyliodd y ‘Sarah Lloyd’ o Landudno i Lerpwl a Runcorn yn 1864. Yn ail hanner 1867 hwyliodd i Runcorn chwech o weithiau gan ddychwelyd gyda chargo o goed a chalch i borthladdoedd yn Ynys Môn sef Amlwch, Biwmaris a Chaergybi a hefyd i Fangor a Belfast. Gwyddys ei bod yn cario clai o Landudno gan bod y capten wedi nodi hynny yn log y llong. Y flwyddyn wedyn hwyliodd y Sarah Lloyd sawl tro o Gonwy i Runcorn, ac yn 1869 bu wyth mordaith i Runcorn. Hefyd, hwyliodd i Lerpwl o Landudno ar Orffennaf 21ain. Gyda chapten newydd, Hugh Parry o Foelfre a hwyliodd o Landudno i Widnes ddwywaith y flwyddyn honno. Wedi 1873 ‘does dim tystiolaeth bod y llong wedi hwylio o Landudno. Gwerthwyd hi yn 1904 er mwyn ei thorri’n ddarnau. (Mae Ivor Wynne Jones yn gwrth-ddweud hyn yn ei lyfr ‘Shipwrecks of North Wales’ gan gofnodi iddi gael ei cholli yn 1874.)

Dyma ddyfyniad o lyfr D. Smith am y llong

He began building a 34 ton ship at Penmorfa called after his wife the 'Sarah Lloyd'. She was the only ship known to have been built in Llandudno and was registered in the port of Beaumaris though her home port was Conwy. She was typical of the flats that traded the coast at the time but, when launched in 1863, she was too late to carry ore from the Llandudno mines. She earned her living by carrying white clay from the Nant y Gamar quarry, bringing home building materials and also carrying copper ore from other mines in Caernarfonshire to Swansea. She was thought to have been wrecked off Aberdaron in 1875 but she remained on the shipping register until 1900, the ownership passing to George Brookes and then William Jones who at one time had been her skipper. It seems likely she was salvaged after being beached by her skipper, Owen Thomas of Tyn y Coed. [1]

Y Cyd-destun Daearegol

golygu

(Math Williams)

 
Trawstoriad o ddaeareg Nant y Gamar

Natur cemegol y mwyn

golygu

Mae arolwg cemegol o’r dyddodion yn dangos eu bod yn cynnwys mwynau fel ilit, cwarts, caolinit, ‘gibbsite’ a gwaedfaen. Dengys cofnodion bod deunyddiau tebyg i’r rhai yn Nant y Gamar yn bodoli mewn safleoedd carreg galch fel Mynydd Halkyn a Dwyrain Clwyd i gyfeiriad aber Afon Dyfrdwy. Gellir defnyddio tywod cwarts i nifer o wahanol brosesau fel tywod adeiladu, mowldio a thywod gwydr, a hynny’n dibynnu ar faint y graen tywod. Gall cwarts pur fod yn ddi-liw a gellir ei ddefnyddio yn y diwydiant gemwaith a hefyd y gwydr o ansawdd gorau. Mae ilit a caolinit yn fwynau clai sy’n cynnwys y gronynau lleiaf ac mae gwaedfaen yn fwyn haearn.

Defnydd a wnaed o'r cynnyrch

golygu

Mae’n debygol bod y tywod gwyn a gariwyd i Lerpwl a Widnes wedi cael ei ddefnyddio yn y diwydiant gwydr tra bod y clai a gariwyd i Runcorn yn cael ei gario ymhellach ar Gamlesi Trent a Merswy i’r Potteries. Yn anffodus, does dim cofnodion ar gael yn dangos ble ‘roedd diwedd siwrnai tywod a chlai Nant y Gamar. Er hynny, mae yna gofnodion eraill am y dyddodion, llawer mwy, yn Nhreffynnon a Rhes y Cae gan bod rhai oedd â diddordeb yn Nant y Gamar hefyd â’u bys yn y brwes yn ardal Treffynnon yn ogystal.

Defnyddid y gymysgedd tywod/clai, yr un gwyn a’r un lliw, fel clai tân wrth gynhyrchu. Wedi i’r tywod gael ei wahanu oddi wrth y clai pan oedd yn gymysgedd, fe gai ei falu’n fan a’i ddefnyddio i wneud gwydr neu wrth gefn fel powdwr fflint wrth gynhyrch tseina a chrochenwaith. Deg swllt y dunnell oedd y pris am gario’r tywod gwyn mewn llongau, a’r pris am ei gario mewn troliau l’r ‘Potteries’ oedd saith swllt y dunnell. Ar ôl iddo gael ei sychu ’roedd y clai gwyn yn wyn fel yr eira ac o wead arbennig ac yn cael ei adnabod fel ‘Cambria’. Hefyd, defnyddid y clai gwyn i wneud pibau ‘smygu. Wedi i’r clai gwyn gael ei lanhau mewn dýr i’w ryddhau o dywod creigiog a’i sychu, fe’i gwerthid am £3 12s 0d y dunnell ac ‘roedd galw mawr amdano yn y ‘Potteries’ ble, o’i gymysgu gyda chlai plastig oedd yn cynnwys alwmina, dywedid ei fod yn rhoi gwell lliwiau na’r tseina ‘Worcestershire’ gorau.

Ynghanol y dyddodion o dywod gwyn a chlai darganfuwyd cerrig toredig llwyd-wyn tebyg i lechi, oedd, ar ôl ei falu’n fan yn ddefnyddiol iawn i’r crochenwyr a gelwid ef yn ‘Rock Cambria’. Yn 1821 gwerthwyd hwn am 12s 6d y dunnell. Prin iawn oedd cofnodion y diwydiant crochenwaith yn y 19g, ond gwyddys bod corff a elwid yn ‘Cambrian Argil’ neu Clai Gwyn Cymreig yn cael ei gynhyrchu gan ‘Messrs Masons Ironstone’ yn Hanley Stoke on Trent yn ystod y ganrif honno.

 
Hen ddysgl Masons Ironstone

Sylwadau cyfoes am y chwarel

golygu

Dyma gofnod o ddyddiadur Harry Thomas (yn Tywyddiadur Llen Natur), Nant y Gamar, Llandudno (Archifdy Conwy) dyddiedig 20 Medi 1914, sylwer ar y frawddeg mewn print trwm:

Barometer 30.28 (1145 p.m.) NE Rather cold but sunny. Rough sea and a good deal of wreckage (from the jelly?) [dim syniad beth a olygir wrth hyn - cafodd ei bigo sawl gwaith gan slefrod môr yn yr wythnosau blaenorol]. In the afternoon visit the Little Orme quarry with Auntie & Edward. A particularly interesting new cutting on the hillside opposite Trwyn-y-fuwch (SW) disclosing large beds of chert (millstone grit) from which I secured a specimen.

Penderfynwyd chwilio a oedd sôn am y ‘millstone grit’ ar Drwyn y Fuwch, ond ni chafwyd llwyddiant. Tynnwyd ein sylw gan Tom Parry, hanesydd lleol, at ddyfyniad perthnasol allan o “Hanes Bedyddwyr Llandudno”, gan John Roberts, Arwynfa.” [2]

“Cymeriad rhyfedd Iawn oedd Margaret Owen, ac yr oedd ei hofn a’i arswyd ar yr holl gymdogaeth. Amddiffynai ei cham a dyrnau yn erbyn dyn cryf, ac nid oedd ofn undyn nac unpeth arni. Enillai ei bywoliaeth trwy werthu tywod gwyn o Fynydd Gloddaeth. Yr oedd digon o’r tywod gwyn, neu’r grisial hwn i’w gael y pryd hynny ym mhen uchaf ffordd Nant-y-Gamar, a chariwyd miloedd lawer o dunelli ohono mewn llongau. Gwelir pwll mawr yno hyd heddiw lle buwyd yn clloddio amdano gynt. “Fireclay” oedd enw’r Saeson arno. Aethai Margaret Owen o gwmpas y wlad a’r plasau i werthu’r grisial hwn, a ddefnyddiwyd i sgwrio byrddau a phethau eraill.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Smith, D. (1988?) The Great Orme Copper Mines. Creuddyn Publications.
  2. Roberts, J. (c.1900) “Hanes Bedyddwyr Llandudno”, gan John Roberts, Arwynfa.”
  • Mae'r ysgrif hon yn tynnu'n drwm ar lyfryn Saesneg ‘Nant y Gamar – Historical and Social Survey’ gan y diweddar Kenneth Dibble. Yr hyn a geir yma yw addasiad a chyfieithiad o ran o hanes y gloddfa gan Gareth Pritchard.