Llandudno

tref yng Ngogledd Cymru

Tref arfordirol a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llandudno.[1][2] Mae'n gorwedd ar benrhyn y Creuddyn i'r gogledd o Gonwy a Bae Colwyn. Mae ganddi boblogaeth o tua 25,000. Mae'n gorwedd ar y tir isel sydd rhwng tir mawr gogledd Cymru a Phen y Gogarth Fe'i hadeiladwyd yn bennaf yn y 19g fel cyrchfan gwyliau ac mae ei phensaernïaeth hanesyddol yn enwog. Mae'n un o gyrchfannau twristaidd mwyaf poblogaidd gogledd Cymru. Daw ei henw o blwyf hynafol Sant Tudno. Mae Caerdydd 210 km i ffwrdd o Llandudno ac mae Llundain yn 322 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 23 km i ffwrdd.

Llandudno
Mathcymuned, tref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTudno Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaTudno Edit this on Wikidata
Poblogaeth20,800 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3225°N 3.825°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000903 Edit this on Wikidata
Cod OSSH783824 Edit this on Wikidata
Cod postLL30 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)
Map
Llandudno o'r Gogarth
Y gwaith copr

Hanes golygu

 
Rhiwledyn a'r traeth o brom gogleddol Llandudno

Mae'r adeiladau yn y rhan fwyaf o'r dref yn perthyn i'r 19g a'r 20g, ond mae hanes ardal plwyf Llandudno yn cychwyn yn y cyfnod cynhanesyddol. Yn Oes yr Efydd dechreuwyd cloddio am gopr ar y Gogarth a bu diwydiant cloddio copr yn yr ardal hyd at y 19g. Ceir cromlech a meini eraill ar y Gogarth.

Yn ôl traddodiad, sefydlodd Sant Tudno gell ar y mynydd yn y 6g mewn man a nodir gan Eglwys Tudno heddiw. Dyma gyfnod y brenin Maelgwn Gwynedd hefyd, a gysylltir â Chaer Ddeganwy ac Eglwys Rhos.

Ar ddechrau'r 19g dim ond pentref bychan, yn gartref i bysgotwyr a mwyngloddwyr copr a'u teuluoedd oedd wrth droed y Gogarth. Datblygwyd y tir wastad rhwng y Gogarth a Rhiwledyn yn y 19g a chodwyd nifer o westai crand a thai. Y prif atyniad oedd y ddau draeth braf - Pen Morfa a Thraeth y Gogledd - a'r awyr iach. Tyfodd Llandudno i fod un o brif gyrchfannau gwyliau glan môr Cymru a gwledydd Prydain gyda nifer o'r ymwelwyr yn dod o ogledd-orllewin Lloegr i ddianc o'r dinasoedd am ysbaid, Roedd agor y lein reilffordd yn hwb anferth i'r diwydiant twristaidd ac yn ei anterth byddai rhai miloedd o ymelwyr yn cyrraedd y dref bob dydd yn yr haf.

Gwesty’r Hydro golygu

Codwyd Gwesty Craigside Hydro ar lethrau’r Gogarth Fach tua 1884 ar dir Fferm Bryn y Bia. ‘Roedd y gwesty yn arbenigo ac yn cynnig amrywiaeth o driniaethau meddygol, ac fel yr awgryma’r enw ‘Hydro’, ‘roedd llawer o ddefnydd o ddŵr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cymerwyd y gwesty drosodd gan y llywodraeth a symudwyd nifer o weision sifil yno. Yn sicr, roedd yn westy moethus ac ymhlith y bobl fu’n ymweld ‘roedd y Dywysoges Margaret. Mae’r llun uchaf [1] yn dangos y safle yn ystod y pumdegau, gan gynnwys y gerddi a’r lawntiau ‘crocé’ o flaen y gwesty a’r neuaddau tenis dros y ffordd ger y môr. Ym 1959 penderfynwyd troi’r neuaddau tenis yn theatr gyda’r enw ‘The New Stadium’ a chyflwyno sioeau ar rew. Ar Orffennaf 11eg. 1959 yr agorwyd yr amwynder gyda gorymdaith o’r pier at y theatr gyda bwch gafr a band yn arwain! Byr iawn fu oes y theatr, ac ar ddechrau’r saithdegau dechreuodd Cwmni Hotpoint gynhyrchu peiriannau glanhau a smwddio ar y safle. Yna, cymerwyd y safle gan Gwmni Ceir Automobile Palace oedd â modurdai yng Nghraig y Don, Bae Penrhyn (Y Links), Llanfair Pwll, Llandrindod a lleoedd eraill, i storio ceir. Yna, penderfynwyd gwerthu’r cyfan yn cynnwys y gwesty a’r pafiliwn ac fe ddymchwelwyd y gwesty ym 1974. Prynwyd y safle gan Awdurdod Tir Cymru a’i rannu’n dair safle. Bellach, fel y gwelwch o’r ail lun, tai sydd ar y safle.[3]

Pier Llandudno golygu

 
Pier Llandudno

Adeiladwyd y pier rhwng 1876 a 1878, yn defnyddio trawstiau haearn gyrru a cholofnau haearn bwrw. Mae'r pier 1234 troedfedd o hyd. Cynhaliwyd cyngerddau ym Mhafiliwn y Pier, efo artistiaid megis Syr Malcolm Sargent, George Fornby, Semprini, Petula Clark, Arthur Askey, Russ Conway, y chwiorydd Beverley a Cliff Richard. Llosgwyd y pafiliwn yn 1994..[4]

 
Y geifr yn ymweld a'r dref yn ystod locdown coronafirws, Ebrill 2020.

Defnyddiwyd y pier am flynyddoedd maith gan gychod stêm, yn mynd i Lerpwl ac Ynys Manaw. Daeth y fath wasanaethau i ben yn 2005.[4]. ond erbyn heddiw mae mordeithiau lleol ar MV Balmoral[5] a PS Waverley[6] yn ystod yr haf.

Tramffordd golygu

 
Tramffordd y Gogarth

Mae'r dramffordd yn rhedeg o orsaf yn rhan uchaf tref Llandudno i'r caffi a gwylfa ar y copa, gyda gorsaf arall hanner ffordd i fyny lle mae'n rhaid i deithwyr newid i dram arall. Tramffordd ffwniciwlar yw hi.[7]

Cyfryngau golygu

Gwasanaethir Llandudno gan orsaf radio cymunedol Tudno FM, sy'n darlledu yn Saesneg (yn bennaf) ac yn Gymraeg. Y Pentan yw'r papur bro lleol.

Cludiant golygu

Gwasanaethir y dref gan gangen rheilffordd o Gyffordd Llandudno, sy'n rhan o Reilffordd Dyffryn Conwy. Trwy orsaf y Cyffordd ceir gwasanaethau ar lein Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru i gyfeiriad Caergybi i'r gorllewin a dinas Caer i'r dwyrain. Bu Gorsaf reilffordd Llandudno yn un o'r rhai mwyaf crand yng Nghymru ar un adeg, ond mae llawer o'r to haearn bwrw a gwydr wedi ei dynnu i lawr a dim ond rhan sy'n aros heddiw. Adeilad briciau coch a godwyd yn y 19g yw'r orsaf.

Mae Llandudno yn ganolfan gwasanaethau bysiau lleol gyda nifer o wasanaethau yn ei chysylltu â'r trefi a phentrefi lleol. Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau hyn yn cael eu rhedeg gan gwmni Arriva Cymru.

Pobl o Landudno golygu

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandudno (pob oed) (20,701)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandudno) (4,079)
  
20.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandudno) (10517)
  
50.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llandudno) (4,197)
  
44.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llandudno ym 1896 a 1963. Am wybodaeth bellach gweler:

Chwaraeon golygu

Mae'r dref yn gartref i C.P.D. Llandudno, sy'n cystadlu yn y Gynghrair Undebol. Ceir maes criced yn y dref, cartref Clwb Criced Llandudno.

Eglwysi golygu

Saif y brif eglwys, Eglwys y Drindod Sanctaidd, yn Stryd Mostyn.

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Ivor Wynne Jones, Llandudno, Queen of Welsh Resorts (ail arg. 2002)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. Gareth Pritchard ym Bwletin Llên Natur rhifyn 60, tudalen 2
  4. 4.0 4.1 Gwefan y pier[dolen marw]
  5. "Gwefan y Lein White Funnel". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-03. Cyrchwyd 2016-03-19.
  6. Gwefan y Waverley
  7. Gwefan Videoscene
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  11. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol golygu