Llid ym mhilen synofaidd cymal y glun sy'n ei gwneud yn anodd sefyll a cherdded yw clun lidus.

Clun lidus
Dosbarthiad ac adnoddau allanol

Cymal y glun rhwng asgwrn y forddwyd ac asetabwlwm y pelfis
ICD-10 M67.3
MedlinePlus 000981
eMedicine ped/1676 emerg/387}

Mae clun lidus yn eithaf cyffredin mewn plant, yn enwedig bechgyn, ac yn gyffredinol bydd yn effeithio ar blant rhwng 3 a 10 mlwydd oed. Yn aml cyflwr byrdymor yw clun lidus ac nid oes cymhlethdodau pellach.[1]

Achosion golygu

Aneglur yw achos clun lidus, ond yn y rhan fwyaf o achosion bydd plentyn wedi dioddef haint firaol, megis annwyd neu wddf tost, yn ystod yr wythnos cyn datblygu clun lidus neu cyn hynny.[2]

Gall clun lidus ddigwydd fel cymhlethdod hefyd os yw'r claf yn dioddef cyflwr mwy difrifol, megis clefyd Perthe neu fathau amrywiol o arthritis ieuenctid.[2]

Symptomau golygu

Fel arfer, mae symptomau clun lidus yn datblygu'n gyflym, yn para am 1–2 wythnos, ac yna'n diflannu yr un mor gyflym. Cychwynnir â phoen cryf a symudiad cyfyngedig yn un o gymalau'r glun; yn anghyffredin effeithia'r cyflwr ar y ddwy glun. Mewn rhai achosion, gall y poen ledaenu i'r forddwyd, yr afl, a'r pen-glin. Efallai y daw cerdded neu hyd yn oed sefyll yn anghyfforddus iawn i'r claf.[3]

Diagnosis golygu

Yn aml, mae tystiolaeth y claf o'r symptomau yn ddigon i feddyg gwneud diagnosis o glun lidus. Ond o bryd i'w gilydd bydd meddyg am gyfeirio'r claf i gael pelydr-X, sgan uwchsain, neu brofion gwaed yn yr ysbyty i gadarnháu'r diagnosis a diystyru achosion eraill posib, mwy difrifol. Gellir cynnal prawf cyfradd gwaddodi erythrosytau (ESR) i fesur pa mor gyflym mae celloedd coch y gwaed yn disgyn i waelod tiwb profi; yn gyffredinol, byddant yn disgyn yn gyflymach pan fydd rhan o'r corff yn llidus. Yn ogystal cynhelir prawf protein C-adweithiol (CRP) i fesur faint o CRP—protein a gynhyrchir gan yr afu—sydd yng ngwaed y claf. Bydd lefel uchel neu gynyddol o CRP yn awgrymu llid yn y corff.[4]

Triniaeth golygu

Trinnir llawer o achosion o glun lidus yn yr ysbyty, lle rhoddir triniaeth hydynnu, a ystyrir fel y driniaeth orau. Rhoddir rhwymyn gludiog o amgylch coes y claf a fydd yn cyrraedd y forddwyd, a atodir wedi hynny at bwysau sy'n hongian dros y gwely wrth gortyn a phwli. Yn aml dim ond am dri neu bedwar diwrnod bydd y claf yn aros yn yr ysbyty.[5]

Os na fydd angen aros yn yr ysbyty, bydd yn hanfodol i'r claf orffwyso. Y safle mwyaf cyfforddus a di-boen yw gorwedd ar y cefn gyda'r pen-glin wedi'i blygu allan rhyw ychydig ar yr ochr boenus, a'r droed yn pwyntio ymaith o'r corff.[5]

Gall cyffuriau lladd poen neu gyffuriau wrthlidiol (NSAID) helpu i leddfu'r poen a lleihau'r llid.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Clun lidus: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  2. 2.0 2.1  Clun lidus: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  3.  Clun lidus: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  4.  Clun lidus: Diagnosis. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  5. 5.0 5.1 5.2  Clun lidus: Triniaeth. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.