Prawf meddygol lle cymerir sampl o waed claf i'w archwilio mewn labordy yw prawf gwaed. Mae gan fflebotomydd hyfforddiant arbennig i dynnu gwaed, ond gall samplau gwaed hefyd gael eu cymryd gan nifer o weithwyr iechyd proffesiynol.[1]

Gwythïen-bigiad i dynnu gwaed o glaf

Proses

golygu

Gan amlaf cymerir sampl mewn prawf gwaed o waedlestr yn y fraich, gan ei bod yn rhan gyfleus o'r corff i'w dadorchuddio, ac yn aml ochr fewn y penelin neu'r arddwrn gan yma y mae'r gwythiennau'n gymharol agos at wyneb y croen. Gyda plant fe gymerir y sampl yn aml o gefn y llaw, gan roi anesthetig ar ffurf eli ar y croen. Yn achos rhai mathau o brofion gwaed, gofynnir i'r claf ymprydio am dipyn cyn i'r sampl gael ei chymryd.[2]

Caiff rhwymyn tynn ei roi o gwmpas rhan uchaf y fraich i'w gwasgu ac arafu llif y gwaed allan o'r fraich dros dro, er mwyn achosi'r wythïen i chwyddo gyda gwaed. Cyn cymryd y sampl gall y croen gael ei sychu gyda darn o wlân cotwm ag antiseptig i atal heintiau. Gwthir nodwydd, a gysylltir i chwistrell neu gynhwysydd casglu gwaed arbennig, i'r wythïen i gymryd y sampl o waed. Weithiau caiff plastr ei roi dros y toriad yn y croen ar ôl cymryd y sampl.[2]

Os dim ond sampl bychan iawn o waed sydd ei angen, mae'n bosib pigo bys y claf yn unig a gwasgu ychydig ddiferion o waed ohono. Tueddir i brofion gwaed bod yn hollol ddi-boen, ac eithrio teimlad ysgafn o bigo wrth i'r nodwydd fynd i mewn i'r croen, ond yn debyg i achos nifer o brosesau meddygol eraill gall ffobia nodwyddau achosi ofn neu anghysur i'r claf.[2]

Rhoddir y sampl o waed mewn potel a'i labelu gyda enw'r claf cyn ei hanfon i labordy i'w harchwilio o dan ficrosgop neu i'w phrofi gyda chemegau, yn ddibynnol ar beth sy’n cael ei archwilio. Anfonir canlyniadau'r prawf yn ôl at yr ysbyty neu feddyg y claf.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Profion gwaed: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 24 Ebrill, 2010.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3  Profion gwaed: Sut mae'n cael ei wneud?. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 24 Ebrill, 2010.