Clwb Golff Morgannwg
Mae Clwb Golff Morgannwg (hefyd Clwb Golff Sir Forgannwg; Saesneg: Glamorganshire Golf Club) wedi'i leoli ym Mhenarth Isaf ym Mro Morgannwg ac mae'n un o'r clybiau golff hynaf yng Nghymru. Sefydlwyd y clwb gan Iarll Plymouth oedd y berchen llawer o dir yn y sir.
Enghraifft o'r canlynol | clwb golff |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1890 |
Chwaraeodd y clwb ran flaenllaw yn sefydlu Undeb Golff Cymru, a chynhaliodd Bencampwriaeth Amatur Cymru ddwywaith yn ogystal â Phencampwriaethau cyntaf Merched Cymru yn y blynyddoedd cynnar.
Ym 1898 roedd y clwb yn faes profi system sgorio golff chwyldroadol newydd Dr Frank Stableford sy'n dal i gael ei defnyddio heddiw.
Y Cwrs
golyguEr ei fod yn agos i’r môr, nid yw cwrs Sir Forgannwg yn gwrs dolenni (links), ond yn gwrs parcdir 18-twll ar dir tonnog ysgafn ar ymyl dwyreiniol yr hyn sydd bellach yn Barc Gwledig Llynnoedd Cosmeston. Mae'n mesur 6,109 llath o hyd ac yn par 70.[1]
Hanes
golyguEr nad Clwb Golff Morgannwg yw'r hynaf yng Nghymru, gellid ystyried iddo fod gyda'r cyntaf i gael ei sefydlu mewn tref ddiwydiannol. Sefydlwyd y Clwb wedi hysbyseb yn Penarth Chronicle ar 18 Hydref 1890 a nododd, (yn anghywir o ran tarddiad y gêm, gan mae'r Albaen y gwelir fel cartref golff):[2]
“We hear that the famous American game of Golf is about to be introduced to this neighbourhood. It appears that Lord Windsor has given a piece of ground at Lower Penarth for the purposes of the game. A meeting has been called for Monday night next, for the purpose of forming a club.”
Ym 1890 rhoddodd Iarll Plymouth lain helaeth o dir ym Mhenarth Isaf a sefydlwyd y clwb i ddechrau fel cwrs naw twll. Ymgymerodd y clwb â rhaglen ehangu i'r cwrs llawn deunaw twll yn ystod 1896 a'r flwyddyn ganlynol gan alluogi Pencampwriaeth Amatur Cymru 1897 i gael ei chynnal ym Mhenarth am y tro cyntaf.[3]
Bu i lwyddiant y Clwb fod yn ysgogiad i ffurfio Glwb Golff Brenhinol Porthcawl a cafwyd cefnogaeth llawer o sylfaenwyr clwb Penarth wrth ffurfio'r clwb newydd.[2]
System sgorio Stableford
golyguDyfeisiwyd dull Stableford o sgorio golff, system sydd bellach yn cael ei defnyddio a'i pharchu, yn enwedig gan golffwyr amatur, ledled y byd, yn gyntaf gan aelod o glwb Sir Forgannwg, gan Dr. Frank Barney Gordon Stableford. Rhoddodd gynnig ar ei gyd-aelodau o'r clwb am y tro cyntaf ar 30 Medi 1898.
Perthynas agos â Rygbi
golyguRoedd blynyddoedd cynnar y clwb yn rhan o dŵf chwaraeon torfol boblogaidd ar draws Cymru a Phrydain. Gwelwyd sefydlu perthynas hynod agos rhwng y clwb â rygbi Cymru.
Teulu Duncan
golyguYn yr 1860au sefydlodd David Duncan ymerodraeth bapur newydd yn cynnwys The Cardiff Times, Evening News, South Wales Echo a South Wales Daily News. Roedd ganddo 3 mab, John, David, ac Alexander a oedd hefyd yn golffwyr brwd ac yn aelodau sefydlu Clwb Golff Morgannwg. Roedd Alexander yn un o sylfaenwyr a chwaraewr Clwb Rygbi Caerdydd ac aeth ymlaen i fod yn Llywydd arno. Daeth yn ddewiswr ac yn Is-lywydd Undeb Rygbi Cymru ac yn ei flynyddoedd cynnar mae’n cael y clod am fod yn brif gefnogwr ariannol URC. Daeth hefyd yn un o sylfaenwyr y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (a elwir bellach yn 'World Rugby') ac un o'r prif ddylanwadau y tu ôl i glwb rygbi enwog y Barbariaid gan ddewis Penarth yn gartref iddynt ym 1901.[2]
Clwb pêl-droed rygbi'r Barbariaid
golyguMae’n debygol na all unrhyw glwb golff arall yn y byd honni ei fod wedi croesawu cymaint o chwaraewyr rygbi gwych o bob rhan o’r byd, oherwydd ymwelodd y Barbariaid enwog â chlwb Morgannwg bob Sul y Pasg rhwng 1901 a 1996 fel rhan o’u penwythnos Pasg traddodiadol o gemau yn erbyn clybiau enwog Cymru.
Ym 1924–25, i gydnabod haelioni'r clwb golff, tanysgrifiodd naw deg pump o aelodau Barbaraidd gyfanswm o £52.17s.0d ar gyfer cwpan arian parhaol 95 owns o'r enw Cwpan Her y Barbariaid.
Mae pen Springboks marw a gyflwynwyd i dîm y Barbariaid ar ôl iddynt drechu De Affrica ym 1961, yn parhau i fod yn cael ei arddangos ym mar y clwb golff hyd heddiw.
Guy Gibson VC
golyguRoedd Guy Gibson, arweinydd cyrch chwedlonol y Dam Busters ar yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd yn aelod anrhydeddus o Glwb Golff Sir Forgannwg. Pan ddaeth y newyddion ei fod wedi ennill Croes Victoria fe ddathlodd y noson honno yn y clwb.
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "The Golf Course". Gwefan CGP. Cyrchwyd 21 Hydref 2024.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "History". Gwefan CGP. Cyrchwyd 21 Hydref 2024.
- ↑ Glamorganshire Golf Club website