South Wales Daily News
Papur newydd Saesneg dyddiol rhyddfrydol, oedd y South Wales Daily News, a sefydlwyd yn 1872. Cafodd ei ddosbarthu yn siroedd Morgannwg, Trefynwy, Caerfyrddin, Penfro, Trefaldwyn, Ceredigion, Brycheiniog, Maesyfed, a rhannau o orllewin Lloegr. Roedd yn cynnwys newyddion lleol a chenedlaethol, a gwybodaeth yn bennaf. Cafodd ei gyhoeddi gan David Duncan & Sons. Gweler clawr y rhifyn gyntaf yn y ddelwedd gyda'r erthygl hon.
Enghraifft o'r canlynol | daily newspaper |
---|---|
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 7 Chwefror 1872 |
Lleoliad cyhoeddi | Caerdydd |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Teitlau cysylltiol: South Wales News a'r South Wales Echo. [1]
Roedd David Duncan yn un o brif sefydlwyr Clwb Golff Morgannwg. Roedd ganddo dri mab, John, David, ac Alexander. Roedd Alexander yn un o sylfaenwyr a chwaraewr Clwb Rygbi Caerdydd ac aeth ymlaen i fod yn Llywydd arno. Daeth yn ddewiswr ac yn Is-lywydd Undeb Rygbi Cymru ac yn ei flynyddoedd cynnar mae’n cael y clod am fod yn brif gefnogwr ariannol URC. Daeth hefyd yn un o sylfaenwyr y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (a elwir bellach yn 'World Rugby') ac un o'r prif ddylanwadau y tu ôl i glwb rygbi enwog y Barbariaid gan ddewis Penarth yn gartref iddynt ym 1901.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ South Wales Daily News Papurau Newydd Cymru Ar-lein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- ↑ "History". Gwefan CGP. Cyrchwyd 21 Hydref 2024.
Dolenni allannol
golygu