Clwb Tenis Aberystwyth

Clwb tenis trigolion Aberystwyth a'r ardal yw Clwb Tenis Aberystwyth (Saesneg: Aberystwyth Lawn Tennis Club). Mae'r clwb yn aelod o Tenis Cymru.

Arwydd Clwb Tenis Aberystwyth, Morfa Mawr

Lleoliad ac Adnoddau

golygu
 
Cyrtiau tenis Morfa Mawr o Ffordd y Gogledd, Aberystwyth
 
2 o gyrtiau'r Clwb

Lleolir y clwb a'r cyrtiau ar stryd Morfa Mawr yn nhref Aberystwyth. Mae'n rhannu safle gyda Clwb Bowlio Aberystwyth.

Ceir 8 cwrs tenis ar y safle gyda sawl llain chwarae gwahanol ers i'r Clwb addasu yn 2007. Ceir:

  • 3 cwrt macadam dau-dôn gwyrdd/coch
  • 1 cwrt 'New York Green'
  • 3 cwrt New York Green Porous Kusioned Acrylic (1 o dan llif-oleuadau)
  • 1 cwrt dull 'French open Red Easi-clay' (hefyd dan llif-oleuadau).

Mae tenis wedi ei chwarae ar Morfa Mawr ers yr 1920au. Ceir ffotograff ar wefan y Clwb [1] o gêm tenis o 1934 ar lleiniau newydd i'r oes, En Tout Cas - llain wedi eu dylunio ar gyfer chwarae mewn pob tywydd.

Safai neuadd bren a adeiladwyd gan y Brifysgol ar safle gyfredol Pafiliwn y Mileniwm a llain rhif 2 y clwb bowls. Defnyddiwyd y neuadd yn helaeth ar gyfer cyngherddau cerddorol a chynadleddau. Yn anffodus, llosgwyd y neuadd mewn tân yn 1933 - digwyddiad a ddaliwyd ar ffilm gan y ffotograffydd lleol, Glynne Pickford, a ddigwyddod fod yn cerdded heibio'r safle ar y pryd.[1]

Cyrtiau Newydd

golygu

Yn 2001, dan arweiniad athro lleol, David Pugh, ymgymrodd y Clwb â'r dasg o godi £165,000 ar gyfer ail-lawrio'r 8 cwrt.

Mewn cyd-weithrediad gyda'r Brifysgol, ysgolion a sefydliadau eraill codwyd yr arian a crëwyd llain newydd i'r 8 cwrt gan ddewis llain clustog mandyllog acrylig a chwrt 'easi-clay' gan Duracourt. Gellir chwarae ar y lleiniau yma mewn glaw ac yn ystod misoedd y gaeaf.

Cystadleuaethau

golygu

Mae'r Clwb yn chwarae timau dynion, menywod a phrifysgol.

Mae'r Clwb wedi cystadlu yng nghynghrair De Cymru Adran 1 Gorllewin ac ennill dyrchafiad i Uwch-gynghrair De Cymru yn 2005.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu