Tenis Cymru
Tenis Cymru (Saesneg: Tennis Wales) yw corff llywodraethol tenis yng Nghymru. Mae'n rhan o gorff llywodraethol Brydeinig, y Lawn Tennis Association.[1][2]
Aelodaeth a Threfniadaeth
golyguMae 90 clwb yn aelod o Tenis Cymru gydag oddeutu 15,000 aelod unigol. Mae Tenis Cymru yn trefnu twrnameintiau ieuenctid, agored a veterans. Trefnir hefyd cynghreiriau lleol a rhanbarthol - Gogledd Cymru a De Cymru - a thimau sirol.[2][3]
Mae Tenis Cymru yn cydlynu tua 250 twrnament bob blwyddyn. Mae'r cystadlaethau yma ar gyfer bob oed o chwech i dros 70 oed.
Prif bartneriaid cyllidol Tenis Cymru yw: Chwaraeon Cymru, y LTA a'r Tennis Foundation. Mae Tenis Cymru hefyd yn gweithio'n agos mewn partneriaeth gyda Chwaraeon Anabledd Cymru ac eraill.
Pencadlys
golyguHyd nes 2013 fe lleolwyd Tenis Cymru yng Nghanolfan Tenis Genedlaethol Cymru yn East Moors, Caerdydd. Cauwyd y Ganolfan ar fyr-rybudd gan ei rheolwyr, Virgin Active. Mae pencadlys Tenis Cymru bellach wedi ei lleoli yn Francis House, Drake Walk, Caerdydd a cheir swyddfa rhanbarthol ar Ffordd Plas Coch, Wrecsam.[4]
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "NGB websites:About us:Sport Wales-Chwaraeon Cymru". Sport Wales-Chwaraeon Cymru website. Sport Wales. 2010. Cyrchwyd 22 January 2011.
- ↑ 2.0 2.1 "Tennis Wales - the governing body for tennis in wales". Tennis Wales Tenis Cymru website. LTA. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-25. Cyrchwyd 2009-07-21.
- ↑ "Tennis Wales". Tennis Wales Tenis Cymru website. LTA. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-03. Cyrchwyd 2009-07-21.
- ↑ https://www3.lta.org.uk/in-your-area/Wales/about-us/Find-out-more-about-Tennis-Wales/