Math o chwilen yw teulu'r Coccinellidae neu'r fuwch goch gota (Saesneg: ladybird). Maent yn bryfed a'u hyd yn amrywio o 1 mm i 10 mm sydd, fel arfer, yn felyn, oren, neu goch gyda smotiau duon ar y cloradenydd (neu elytra), coesau duon a phen gyda theimlyddion arno. Mae nifer o rywogaethau neu ffurfiau sydd bron yn gyfangwbl ddu, llwyd neu frown ac mae'n anodd iawn i rai sydd ddim yn entomolegwyr wybod mai Coccinellidae yw'r rhain.

Buwch goch gota saith-smotyn, Coccinella septempunctata

Canfyddir Coccinellidae yn fyd eang, gyda dros 5,000 rhywogaeth wedi eu categorieiddio;[1] mae mwy na 450 rhywogaeth yn frodorol i Ogledd America.

ffynonellau

golygu
  1. Judy Allen & Tudor Humphries (2000). Are You A Ladybug?, Kingfisher, t. 30
  Eginyn erthygl sydd uchod am anifail. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato