Gogledd America

Cyfandir yn Hemisffer y Gogledd

Mae Gogledd America yn gyfandir yn hemisffer gogleddol a hemisffer gorllewinol y Ddaear, wedi'i ffinio i'r gogledd gan y Cefnfor Arctig, ar y dwyrain gan gogledd y Cefnfor Iwerydd, ar y dde-dwyrain gan Môr y Caribi, ac ar y dde a'r gorllewin gan gogledd y Cefnfor Tawel. Mae gan Ogledd America arwynebedd o 24,480,000 km² (9,450,000 mi sg), neu tua 4.8% o arwynebedd y Ddaear. Yn 2002, credir bod y boblogaeth yn fwy na 514,600,000. Dyma'r trydydd cyfandir o ran arwynebedd (ar ôl Asia ac Affrica) a'r pedwerydd o ran poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica ac Ewrop).

Map o'r byd yn dangos Gogledd America
Delwedd cyfansawdd lloeren o Ogledd America

Hanes golygu

Prif erthygl: Hanes Gogledd America

Yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd Gogledd America yn sicr (Newfoundland) oedd y Llychlynwyr, wnaeth galw'r ardal yn Vinland. Cyrrhaeddon nhw yna tua 1000. Er sefydlon nhw rhai gwladfeydd yna, ni gadawon nhw ryw lawer o farc ar y gyfandir.

Ar ôl fordaith Christopher Columbus yn 1492, y Sbaenwyr oedd yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd ac aros. Ennillon nhw reolaeth o rhan fwyaf o ynysoedd mwyaf y Caribi a gorchfygon nhw'r Aztecs, ac felly cymryd dros Mecsico a Chanolbarth America.

Y gwladfeydd Seisnig cyntaf oedd Jamestown a Plymouth Rock, yn nhaleithiau Virginia a Massachusetts heddiw. Y gwladfeydd llwyddiannus Ffrengig cyntaf oedd Port Royal (1604) a dinas Québec (1608), yn nhaleithiau Nova Scotia a Québec heddiw.

Economi golygu

Economi Gogledd America
Poblogaeth: 495.4 miliwn
CMC (PPP): US$12.409 triliwn
CMC (Pres): $11.865 triliwn
CMC/pen (PPP): $25,263
CMC/pen (Pres): $24,155
Cynnydd blynyddol yn
CMC y pen:
1.84% (1990-2002)
Incwm y 10% top: 32.9%
Miliwnyddion: 2.7 miliwn (0.5%)
Amcangyfrif incwm benywaidd 55.7% o'r incwm gwrywaidd

Rhannwyd economi Gogledd America rhwng Canada a'r UDA, dau o wledydd mwyaf cyfoethog a ddatblygol y byd, a chenhedloedd Canolbarth America a'r Caribi, sydd, er nad yn dioddef o economïau gwael, yn wledydd llai economaidd ddatblygol.

Mae Cytundeb Masnach Rydd Canolbarth America (CAFTA) yn cytundeb rhwng yr Unol Daleithiau a'r wledydd Canolbarth America Costa Rica, Gwatemala, El Salfador, Hondwras a Nicaragwa. Amcan y gytundeb yw i hybu masnach rydd rhwng yr aelodau. Mae Canada a Mecsico yn trafod aelodaeth. Mae Cytundeb Masnach Rydd Gogledd America (NAFTA) yn cytundeb rhwng Canada, Mecsico a'r Unol Daleithiau i ddileu tollau ar nwyddau masnachir rhwng ei gilydd.

Gwledydd Gogledd America golygu

 
Gwledydd o Ogledd America
Chwiliwch am Gogledd America
yn Wiciadur.