Math o iaith rhaglennu ar gyfrifiadur yw cod gorchymyn; mae ieithoedd swp-brosesu a shell yn esiamplau.[1] Mae'r gair 'gorchymyn' yma yn nodi fod y cod yn dweud wrth y system i weithredu mewn rhyw fodd neu gilydd. Enghraifft ohono yw'r system gyfrifiadurol MS-DOS a arferid ei defnyddio i reoli cyfrifiaduron personol.

Gellir defnyddio'r ieithoedd hyn yn uniongyrchol ar y llinell orchymyn (command line), ond gallant hefyd otomeiddio tasgau a fyddai fel arfer yn cael eu perfformio â llaw yn y llinell orchymyn. Maent yn gwneud hyn ar y cyd gyda ieithoedd sgriptio, er bod yr iaith orchymyn, fel rheol, yn cysylltu'n cryfach â'r system weithredu sylfaenol. Yn aml, mae gan yr iaith orchymyn (command language) ramadeg syml iawn, neu gystrawennau tebyg i iaith bob dydd, sy'n benodol i'r parth.

Mae gan yr iaith-orchymyn ar gyfer swp-brosesu orchmynion arbennig er mwyn rhoi trefn ar ffeiliau.[2]

Termau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Butterfield, Andrew; Ngondi, Gerard Ekembe; Kerr, Anne (2016). A Dictionary of Computer Science. Oxford University Press. t. 98. ISBN 9780199688975. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2017.
  2. techopedia.com; adalwyd 16 Chwefror 2019.