Microsoft Windows

tudalen categori Wikimedia

Cyfres meddalwedd o systemau gweithredol, cyfrifiadurol yw Microsoft Windows, a grëwyd ac a werthir gan Microsoft. Cafodd y system weithredol Windows ei greu ar 20 Tachwedd 1985, fel atodiad (add-on) i MS-DOS.

Microsoft Windows
Logo Windows
Bwrdd gwaith Windows 7
Rhyddhad diweddaraf Windows, Windows 7, yn dangos y bwrdd gwaith a'r ddechreulen
Cwmni / datblygwr Microsoft
Rhaglennir gyda C, C++ ac iaith cydosodiad[1]
Teulu SW Windows 9x, Windows CE a Windows NT
Cyflwr gweithio Rhyddhawyd yn gyhoeddus
Model ffynhonnell Ffynhonnell gaeedig / Ffynhonnell ranedig
Rhyddhad gwreiddiol 20 Tach. 1985 (fel Windows 1.0)
Targed marchnata Cyfrifiadura personol
Iaith/ieithoedd y mae hi ar gael ynddi/ynddynt Amlieithog (rhestr o becynnau iaith Windows 7)
Dull diweddaru Windows Update, Windows Anytime Upgrade
Platfformau wedi eu cynnal ARM, IA-32, x86-64 ac Itanium
Math o gnewyllyn Hybrid (teulu Windows NT), DOS (Windows 16-did a chyfres Windows 9x/ME)
Rhyngwyneb defnyddiwr diofyn Graffigol (Cragen Windows)
Trwydded Meddalwedd masnachol perchnogol
Gwefan swyddogol windows.microsoft.com

Erbyn 1984 roedd Microsoft Windows wedi cymryd 90% o farchnad fyd-eang cyfrifiaduron personol, gan oddiweddyd gwerthiant MAC OS a oedd wedi'i sefydlu flwyddyn ynghynt (1984).

Fersiynau Cynnar golygu

 
Fersiwn cyntaf Microsoft Windows, sef Windows 1.0, a ryddhawyd ym 1985

Gyda'r fersiynau cynnar iawn, dim ond y rhaglenni sylfaenol fel y cyfrifiannell, calendr, cloc, a'r panel arolygu oedd ar gael. Gelwir y fersiwn hon yn Windows 1.0. Yn ystod mis Hydref 1987, rhyddhaodd Microsoft Windows 2.0, ac wedyn Windows 2.1 tipyn ar ôl hynny.

Windows 3.0 a 3.1 golygu

Yn ystod yr 1990au, rhyddhawyd Windows 3.0 a Windows 3.1. Cafodd y fersiynau yma ddyluniad newydd, a rhagor o gof rhith.

Windows 95, 98, a ME golygu

Cafodd Windows 95 ei ryddhau yn ystod mis Awst 1995 gyda rhyngwyneb defnyddiwr graffigol newydd, cymorth ar gyfer enwau ffeiliau hyd at 255 cymeriad, a'r gallu i redeg rhaglenni 32-did. Yn ystod mis Mehefin 1998, rhyddhawyd Windows 98, ac wedyn ail fersiwn o'r enw Windows 98 Second Edition yn ystod mis Mai 1999. Rhyddhawyd Windows 2000 yn Chwefror 2000, ac wedyn Windows ME (sef Millenium Edition) ym Medi 2000.

Fersiynau Diweddar golygu

Tua diwedd 2006, cafodd Windows Vista ei ryddhau, ac wedyn Windows 7 yn ystod mis Hydref 2009. Mae Windows 8 dal i gael ei ddatblygu.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu