Cof genetig (bioleg)
Mewn bioleg, mae cof yn bresennol mewn stâd system fiolegol yn dibynnu ar ei hanes ynghyd ag amylchiadau presennol. Os caiff y cof hwn ei gofnodi yn y deunydd genetig ac wedi'i etifeddu'n sefydlog drwy rannu cell (mitosis neu meiosis), mae'n gof genetig.
Cof somatig
golyguMae cof somatig wedi'i gyfyngu i'r organeb ac ni chaiff ei drosglwyddo i genedlaethau dilynol. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gall ei fecanwaith gynnwys cof genetig sy'n fitotig sefydlog. Mae'r term yn berthnasol i gof y celloedd, cof anifeiliaid, a chof planhigion, fel a ddisgrifir yn y paragraffau canlynol.
Cof cellog
golyguDaw'r holl gelloedd mewn organebau amlgellog o sygot aml-botensial ac maent yn cynnwys yr un deunydd genetig (gyda rhai eithriadau). Fodd bynnag, maent yn gallu cofnodi hanes o'u datblygiad o fewn yr organeb sy'n arwain at eu gallu a chyfyngiadau cyfyngedig. Yn aml mae celloedd yn gallu mabwysiadu prosesau epigenetig sy'n effeithio ar ryngweithiadau DNA-protein i gofnodi'r cof cellog hwn ar ffurf newidiadau mitotig sefydlog yn y deunydd genetig, heb newid yn y dilyniant DNA ei hun. Fel arfer, caiff hyn ei gyflawni drwy newidiadau yn y strwythur cromatin.[1] Mae enghreifftiau'n cynnwys patrymau methylation o'r moleciwl DNA ei hun a phroteïnau sy'n rhan o becynnu DNA, megis histonau.[2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hirose S (2007). "Crucial roles for chromatin dynamics in cellular memory". J. Biochem. 141 (5): 615–9. doi:10.1093/jb/mvm092. PMID 17416595.
- ↑ Bird A (2002). "DNA methylation patterns and epigenetic memory". Genes & Development 16 (1): 6–21. doi:10.1101/gad.947102. PMID 11782440.
- ↑ Turner BM (2002). "Cellular memory and the histone code". Cell 111 (3): 285–91. doi:10.1016/S0092-8674(02)01080-2. PMID 12419240.