DNA
Moleciwl (polymer) yw DNA, sef asid deocsiriboniwcleig, sy'n cynnwys wybodaeth etifeddol popeth byw, y côd genetig. Mae DNA wedi`i wneud o'r elfennau carbon, hydrogen, ocsigen, ffosfforws a nitrogen. Gydag RNA, mae'n un o'r asidau niwcleig.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth strwythurol cyfansoddion cemegol ![]() |
Math | asid niwclëig, biopolymer, biological macromolecule ![]() |
Rhan o | Mitocondria, genom, nucleosome, DNA binding, DNA metabolic process, DNA catabolic process, DNA biosynthetic process, DNA transport, DNA transmembrane transporter activity, protein-DNA-RNA complex, protein-DNA complex, DNA import into cell involved in transformation, catalytic activity, acting on DNA, cnewyllyn cell ![]() |
Yn cynnwys | polynucleotide, niwcleotid ![]() |
![]() |
Adeiledd DNAGolygu
Darganfu Friedrisch Miescher DNA ym 1869 heb ddeall ei pwrpas. Darganfu James Watson a Francis Crick, ynghyd â Maurice Wilkins adeiledd DNA ym 1953. Mae dwy gadwyn o niwcleotidau gyda'r DNA a mae niwcleotid sy'n moleciwlau llai (monomerau) a wedi'i wneud o siwgr pentos, bas nitrogenaidd a grŵp ffosffad. Mae'r ddwy gadwyn o niwcleodidau yn ffurfio helics dwbl a chadwyd y ddwy gyda'i gilydd gan bondiau hydrogen sy'n cysylliau'r basau y ddwy gadwyn yn wan (paru basau cyflenwol). Adenin (A), Thymin (T), Gwanin (G) a Cytosin (C) yw'r pedair bas y DNA. Mae Adenin o hyd yn cysylltu trwy dai bondiau hydrogen a Thymin. A mae Gwanin o hyd yn cysylltu trwy tri bondiau hydrogen a Cytosin. Mae llawer o baru basau cyflenwol mewn DNA, ond fod pob tri ohonyn yn côd tripled. Fel hynny, Mae nifer o godau tripled a pob un ym golygu un o'r 20 asid amino, asid sy'n cael ei cynnwys mewn proteinau. O ganlyniad, mae'r trefn y basau (a'r codau tripled hefyd) yn achosi'r trefn asid amino mewn proteinau - a mae hynny'n golygu fod y wybodaeth am adeiledd prodeinau mewn y DNA. Gall y DNA trawsgrifio'r wybodaeth hwn i'r mRNA i wneud proteinau mwen ribosomau y cell.
Dyblygiad DNAGolygu
Mae angen dyblygiad DNA wrth i gellau rannu (mitosis) Gall y DNA cynhyrchu copi ei hyn trwy ensymau a moleciwlau cludo arbennig. I wneud hynny, mae ensym yn rhannu'r DNA i'r ddwy niwcleotidau ac ar un pryd mae pob niwcleotid yn dechrau cynhyrchu niwcleotid newydd. Wedi'r gorffen y proses hyn, mae dwy DNA newydd, pob un gyda un niwcleotid hen ac un niwcleotid newydd.
Camgymeriadau dybligiad yw'n achosi mwtaniadau.