Cofeb ryfel Stonehenge, Maryhill
Mae Cofeb ryfel Stonehenge, Maryhill yn gopi o Gôr y Cewri yn Lloegr a adeiladwyd o goncrit a leolir ym Maryhill, Talaith Washington yn yr Unol Daleithiau. Mae'n coffáu meirwon y dalaith yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Saif ar ben clogwyni ar lan ogleddol Afon Columbia ac mae'n cofnodi aberth y milwyr lleol a ffolineb rhyfel.[1]
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/9/9f/Maryhill01LB.jpg/260px-Maryhill01LB.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/35/Samuel_Hill_Stonehenge.jpg/260px-Samuel_Hill_Stonehenge.jpg)
Mae cofeb arall i filwyr lleol sydd wedi marw yn ddiweddarach, a hefyd cofeb i Samuel Hill, cynlluniwr y prosiect gwreiddiol.