Côr y Cewri
Cylch cerrig yw Côr y Cewri (Saesneg: Stonehenge), a godwyd yn Oes Newydd y Cerrig ar Wastadedd Caersallog i'r gogledd o ddinas Caersallog, Wiltshire, yn ne Lloegr. Mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1986. Credir bellach iddo gael ei godi tua 3,650 CC.[1]
Math | atyniad twristaidd, cromlech, cylch cerrig, cofadeilad, safle archaeolegol, amgueddfa hanes, meingylch |
---|---|
Ardal weinyddol | Amesbury |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wiltshire (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.178889°N 1.826111°W |
Rheolir gan | English Heritage |
Cyfnod daearegol | Oes Newydd y Cerrig, Oes yr Efydd |
Arddull pensaernïol | prehistoric Britain |
Perchnogaeth | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Deunydd | sarsen, carreg las |
Mae mwyafrif y cerrig yn dod o'r Marlborough Downs, ond mae cerrig gleision y cylch canol yn dod o fryniau'r Preseli, Sir Benfro ac wedi'u cludo yno bum mil o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y trigolion lleol yn cychwyn amaethu.[1] Yn wreiddiol tybiwyd fod carreg y Maen Allor yng nghanol y cylch yn dod o Gymru hefyd er fe gwestiynwyd hynny gan wyddonwyr ar ddechrau'r 20fed ganrif. Yn Awst 2024 cyhoeddwyd ymchwil yn dangos yn hytrach fod y Maen wedi ei drosglwyddo yno o ogledd-ddwyrain Yr Alban. Arweinwyd yr ymchwill gan Anthony Clarke, myfyriwr PhD o Sir Benfro, sydd yn gweithio ym mhrifysgol Curtin yng ngorllewin Awstralia.[2]
Mor gynnar â 1649, mynnodd John Aubrey mai'r derwyddion a gododd y cerrig, ac mae'r farn honno'n dal yn boblogaidd heddiw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Trysorau Cudd, Timothy Darvill a Geoffrey Wainwright, 2009
- ↑ "Maen Allor Côr y Cewri 'yn tarddu o ogledd yr Alban, nid Cymru'". BBC Cymru Fyw. 2024-08-14. Cyrchwyd 2024-08-14.