Coladu yw'r broses o osod unedau o wybodaeth destunol mewn trefn safonol. Er enghraifft trefnu rhifau yn ôl eu gwerth neu drefnu geiriau yn ôl yr wyddor. Yn gyffredinol y mae gan bob iaith ei threfn benodol.

Unicode golygu

Mae Unicode yn safon gyfrifiadurol rhyngwladol ar gyfer amgodi, cynrychioli a thrafod testunau yn y rhan fwyaf o systemau ysgrifennu'r byd. Mae'n diffinio trefn goladu ddiofyn sy'n annibynnol o unrhyw iaith benodol trwy'r Tabl Elfennau Coladu Unicode Diofyn ( DUCET ) ac Algorithm Coladu Unicode ( UCA ). Mae'r drefn goladu benodol ar gyfer ieithoedd unigol yn cael ei diffinio fel rhan o'r Storfa Ddata Iaith Gyffredin ( CLDR )

Ieithoedd Cyfrifiadurol golygu

Enghreifftiau o goladu gyda ieithoedd rhaglennu gwahanol

Perl

my $coladydd = Unicode::Collate::Locale->new( locale=>'cy' );
my @anhrefnedig = qw(llaw mân man lori pin chi phin ci);
my @trefnedig = $coladydd->sort( @anhrefnedig);
print join( "\n", @trefnedig );

Allbwn:
ci
chi
lori
llaw
man
mân
pin
phin

Dolennau allanol golygu

Chwiliwch am coladu
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.