Coleg Girton, Caergrawnt

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg Girton (Saesneg: Girton College). Fe'i sefydlwyd ar 16 Hydref 1869[1] gan Emily Davies a Barbara Bodichon, y coleg preswyl cyntaf i fenywod yn Lloegr. Fe'i lleolwyd yn Swydd Hertford ar y cychwyn, ond yn 1872 prynwyd y safle presennol, oddeutu dwy filltir a hanner o ganol Caergrawnt ar Ffordd Huntingdon ger pentref Girton. Yn 1873, ail-agorodd y coleg ar y safle newydd dan ei enw presennol. Fe wnaed sawl ychwanegiad i adeiladau'r coleg dros y flynyddoedd, gan gynnwys estyniad diweddar i'r llyfrgell.

Coleg Girton
Mathcoleg ym Mhrifysgol Caergrawnt, adeilad prifysgol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGirton, Swydd Gaergrawnt Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 16 Hydref 1869 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal De Swydd Gaergrawnt, Dinas Caergrawnt Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2286°N 0.0839°E Edit this on Wikidata
Cod OSTL4245060932 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganEmily Davies, Barbara Bodichon, Henrietta Stanley Edit this on Wikidata
Manylion

Ar 27 Ebrill 1948 estynnwyd aelodaeth lawn Prifysgol Caergrawnt i ferched, a daeth Girton yn un o golegau'r brifysgol. Mae Girton yn goleg cymysg erbyn hyn; cyrhaeddodd y cymrodyr gwrywaidd cyntaf ym 1977, ac estynnwyd mynediad i is-raddedigion gwrywaidd ym 1979.

Meistres y coleg yw'r Athro-Foneddiges Marilyn Strathern.

Cynfyfyrwyr golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Emily Elizabeth Constance (1913). Girton College (yn Saesneg). Llundain: Adam & Charles Black. tt. 16–17.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gaergrawnt. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.