Sandi Toksvig

actores

Mae Sandra Birgitte "Sandi" Toksvig OBE (ganed 3 Mai 1958) yn ysgrifenwraig, actores, comedïwraig, cyflwynwraig, cynhyrchwraig radio a theledu, a gweithredwr gwleidyddol Seisnig-Ddanaidd.

Sandi Toksvig
Ganwyd3 Mai 1958 Edit this on Wikidata
Copenhagen Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Brenhiniaeth Denmarc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdigrifwr, cyflwynydd radio, llenor, gwleidydd, cyflwynydd teledu, byrfyfyriwr, actor, gweithredydd gwleidyddol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe News Quiz, The Great British Baking Show, QI, No. 73 Edit this on Wikidata
Taldra1.52 metr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cydraddoldeb Menywod Edit this on Wikidata
TadClaus Toksvig Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://sanditoksvig.com/ Edit this on Wikidata

Fe'i hadnabyddir am gyflwyno The News Quiz ar BBC Radio 4 o 2006 i fis Mehefin 2015, yn ogystal â'r sioe gwis 1001 Things You Should Know ar Channel 4 rhwng 2012 a 2013, ac ailwampiad o'r rhaglen Fifteen to One o Ebrill 2014 ymlaen ar yr un sianel. Yn 2016, cymerodd le Stephen Fry fel cyflwynydd cwis teledu y BBC QI. Yn 2017 ymunodd gyda Noel Fielding i gyd-gyflwyno y sioe The Great British Bake-Off wedi iddo symud o'r BBC i Channel 4, gan adael ar ddiwedd cyfres 2019.

Hi yw cyd-sylfaenydd y Blaid Gydraddoldeb i Ferched (sefydlwyd ym mis Mawrth 2015). Mae wedi bod yn Ganghellor Prifysgol Portsmouth ers mis Hydref 2012, yn ogystal â gwasanaethu fel llywydd presennol y Ginio Ferched y Flwyddyn.

Teledu

golygu
  • No 73 (1982-1986)
  • The Big One (1992)
  • Kingdom (2009)
  • Up the Women (2013)
  • Call the Midwife (2013)
  • QI (2016-)
  • The Great British Bake-Off (2017-2019)

Llyfryddiaeth

golygu

Llyfrau i blant

golygu
  • Toksvig, Sandi (2009). Girls are Best. Llundain: Red Fox. ISBN 978-1862304291.
  • Toksvig, Sandi (2008). The Littlest Viking. Llundain: Yearling. ISBN 978-0440868309.
  • Toksvig, Sandi (2006). Hitlers Canary. Vlaardingen, Yr Iseldiroedd: Valerius uitgeverij. ISBN 90-78250-02-X. (cyfieithiad i'r Iseldireg)
  • Toksvig, Sandi (2005). Hitler's Canary. Doubleday. ISBN 0-385-60889-6.
  • Toksvig, Sandi (2000). The Troublesome Tooth Fairy. Transworld. ISBN 0-552-54663-1.
  • Toksvig, Sandi (2000). Super-Saver Mouse to the Rescue. Transworld. ISBN 0-552-54541-4.
  • Toksvig, Sandi (1999). Super-Saver Mouse. Transworld. ISBN 0-552-54540-6.
  • Toksvig, Sandi (1998). If I Didn't Have Elbows. Deagosti. ISBN 1-84089-048-7.
  • Toksvig, Sandi (1997). Unusual Day. Transworld/Corgi. ISBN 0-552-54539-2.
  • Toksvig, Sandi (1994). Tales from the Norse's Mouth. BBC Books. ISBN 0-563-40358-6.

Llyfrau i oedolion

golygu