Coleg yr Iesu, Caergrawnt
un o golegau Prifysgol Caergrawnt
Coleg yr Iesu, Prifysgol Caergrawnt | |
Arwyddair | Prosperum iter facias |
Enw Llawn | Coleg y Fendigaid Forwyn Fair, Sant Ioan yr Efengylydd a'r Forwyn Ogoneddus y Santes Radegunda y tu mewn i Dref a Phrifysgol Caergrawnt |
Sefydlwyd | 1496 |
Enwyd ar ôl | Capel yr Iesu |
Lleoliad | Jesus Lane, Caergrawnt |
Chwaer-Goleg | Coleg yr Iesu, Rhydychen |
Prifathro | Ian White |
Is‑raddedigion | 489 |
Graddedigion | 270 |
Gwefan | www.jesus.cam.ac.uk |
- Gweler hefyd Coleg yr Iesu (gwahaniaethu).
Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg yr Iesu (Saesneg: Jesus College). "Coleg y Fendigaid Forwyn Fair, Sant Ioan yr Efengylydd a'r Forwyn Ogoneddus y Santes Radegunda y tu mewn i Dref a Phrifysgol Caergrawnt" yw ei enw llawn; mae ei enw cyffredin yn dod o enw ei gapel, Capel yr Iesu.
Capel yr Iesu
golyguSefydlwyd Capel yr Iesu ym 1157 a chafodd ei gwblhau ym 1245. Credir mai'r capel yw adeilad hynaf y brifysgol sydd yn dal mewn defnydd. Yn wreiddiol roedd yn Gwfaint Benedictaidd y Santes Fair a'r Santes Radegunda, a gafodd ei ddiddymu gan John Alcock, Esgob Ely yn y 15g.