John Alcock
Roedd John Alcock ( tua 1430 - 1 Hydref 1500) yn eglwyswr, esgob Arglwydd Ganghellor a llywydd cyntaf Cyngor Cymru a'r Gororau.
John Alcock | |
---|---|
Ganwyd | 1430 Beverley |
Bu farw | 1 Hydref 1500 Wisbech |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, barnwr, esgob Catholig |
Swydd | esgob esgobaethol, roman catholic bishop of Worcester (England), esgob esgobaethol |
Bywgraffiad
golyguGaned Alcock yn Beverley, Swydd Efrog, yn fab i Syr William Alcock, un o fwrdeisiwr Kingston upon Hull. Cafodd ei addysg yng Nghaergrawnt [1] Ym 1461 fe'i gwnaed yn ddeon Capel San Steffan, Westminster, a bu ei ddyrchafiad wedi hynny yn gyflym yn yr eglwys a'r wladwriaeth. Y flwyddyn ganlynol fe'i gwnaed yn Feistr y Rholiau,[2] ac ym 1470 anfonwyd ef yn llysgennad i lys Castilla. Enwebwyd ef i esgobaeth Rochester ar 8 Ionawr 1472 a'i gysegru yn Esgob Rochester ar 15 Mawrth [3]. Cafodd ei drosi yn olynol i esgobaeth Caerwrangon ar 15 Gorffennaf 1476 [4] ac Esgobaeth Ely ar 6 Hydref 1486.[5] Ef oedd llywydd cyntaf Cyngor Cymru a'r Gororau yn Llwydlo rhwng 1473 a 1500 i hyn rhoddodd y rhan fwyaf o'i sylw am y degawd nesaf.[6] Daliodd swydd yr Arglwydd Ganghellor Lloegr ddwywaith, y tro cyntaf rhwng Mehefin 1475 a Medi 1475 ac yna eto rhwng Hydref 1485 a Mawrth 1487.
Roedd Alcock yn un o brif ddiwinyddion y cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd; roedd yn ddyn o ddysgu dwfn a hefyd o hyfedredd mawr fel pensaer. Ar wahân i sefydlu elusen yn Beverley ac ysgol ramadeg yn Kingston upon Hull, fe adferodd lawer o eglwysi a cholegau; ond ei gyflawniad mwyaf oedd adeiladu Coleg yr Iesu, Caergrawnt, a sefydlodd ar safle hen Gwfaint St Radegund.
Penodwyd Alcock i Gyngor y Brenin ym 1470 a daeth yn Feistr y Rholiau ym 1471, yn fuan ar ôl cael ei benodi'n diwtor i fab hynaf y Brenin Edward IV, sef y Tywysog Edward (Edward V wedyn). Ar ôl marwolaeth y Brenin bu gyda'r Tywysog Edward pan gafodd ei ryng-gipio gan Richard, Dug Caerloyw, yn Stony Stratford. Cafodd Alcock ei arestio a'i symud o'i swydd ond fe aeth yn ôl i'r Cyngor yn fuan. Roedd gyda'r Brenin Rhisiart III pan aeth i Efrog ym mis Awst 1483 ac roedd yn aelod o'r ddirprwyaeth Seisnig a gyfarfu â'r Albanwyr yn Nottingham.
Yn ddiweddarach roedd Alcock yn un o sawl clerig a ganfasiodd yn agored o blaid y cynnig bod Harri Tudur yn priodi Elizabeth o Efrog. Wedi'i benodi'n Arglwydd Ganghellor dros dro, agorodd Senedd gyntaf y Brenin Harri VII ar 7 Tachwedd 1485 a daeth yn un o weision mwyaf dibynadwy'r brenin newydd.
Bu farw Alcock ar 1 Hydref 1500 [5] ac mae wedi ei gladdu yn Siantri Alcock yn Eglwys Gadeiriol Ely.
Y Tywysogion yn y Tŵr
golyguMae Valerie Anand, credwr yn ddiniweidrwydd Rhisiart III ym mater Y Tywysogion yn y Tŵr, yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd Alcock, tiwtor Edward V, erioed wedi ffraeo â Rhisiart III, naill ai'n gyhoeddus neu'n breifat, ond dewisodd "barhau i weithio yn dawel wrth ymyl Rhisiart ".[7] Byddai hyn wedi bod yn annychmygol pe bai gan Alcock unrhyw reswm o gwbl i amau bod y Brenin Risiart wedi gwneud unrhyw niwed o gwbl i'r Edward ifanc.
Ysgrifau
golyguYsgrifau cyhoeddedig Alcock, (y mae'r mwyafrif ohonynt yn brin iawn), yw: Mons Perfectionis, neu Hill of Perfection (Llundain, 1497);[8] Gallicontus Johannis Alcock episcopi Eliensis ad frates suos curatas yn sinodo apud Barnwell (1498), sbesimen da o argraffu Saesneg cynnar a darluniau hen fasiwn. Cyhoeddodd hefyd The Castle of Labour, wedi'i gyfieithu o'r Ffrangeg (1536), ac amryw o draethodau a homilïau eraill.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Alcock, John (ALCK469J)". A Cambridge Alumni Database. Prifysgol Caergrawnt adalwyd 7 Mai 2020
- ↑ Fryde, et al. Handbook of British Chronology p. 88
- ↑ Fryde, et al. Handbook of British Chronology p. 268
- ↑ Fryde, et al. Handbook of British Chronology p. 280
- ↑ 5.0 5.1 Fryde, et al. Handbook of British Chronology p. 245
- ↑ Schoeck, R. (2010, September 23). Alcock, John (1430–1500), administrator and bishop of Ely. Oxford Dictionary of National Biography Adalwyd 7 Mai, 2020
- ↑ Anand, Valerie Crown of Roses (1989), p. 404
- ↑ Full text (page views) at Internet Archive.
- ↑ Gweler J. Bass Mullinger - History of the University of Cambridge, vol. i.
Llyfryddiaeth
golygu- Fryde, E. B.; Greenway, D. E.; Porter, S.; Roy, I. (1996). Handbook of British Chronology (arg. Third revised). Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 0-521-56350-X. Fryde, E. B.; Greenway, D. E.; Porter, S.; Roy, I. (1996). Handbook of British Chronology (arg. Third revised). Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 0-521-56350-X. Fryde, E. B.; Greenway, D. E.; Porter, S.; Roy, I. (1996). Handbook of British Chronology (arg. Third revised). Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 0-521-56350-X.
- Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd bellach yn y parth cyhoeddus: Chisholm, Hugh, gol,. (1911). "Alcock, John". Encyclopædia Britannica (arg. 11th.) Cambridge University Press.
Teitlau Anrhydeddus | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Swydd newydd |
Llywydd Cyngor Cymru a'r Gororau 1473 - 1500 |
Olynydd: William Smyth |