Ymgyrchydd elusennol yw Colette Hughes sydd wedi'i chydnabod am ei chyfraniad i'r gwaith adfer yn Rwanda yn dilyn yr hil-laddiad yno yn 1994. Magwyd hi mewn gwersyll i ffoaduriaid yn ne Uganda wedi i'w theulu orfod ffoi o Rwanda pan oedd yn 8 oed. Fe wnaeth Mike, ei gŵr, a hithau gyfarfod yn Abertawe tra oedd yn astudio yno ar ddiwedd y 1970au. Mae'r ddau wedi treulio blynyddoedd yn cynorthwyo gydag adferiad Rwanda yn dilyn yr hil-laddiad yno, gan sefydlu'r Rwanda/UK Goodwill Organisation (RUGO) yn 2002. Buont yn cynllunio prosiectau ailadeiladu ar gyfer Rwanda tra oedd y ddau ohonynt yn gweithio yn llawn amser a chynhaliwyd cyfarfodydd cyntaf RUGO ar eu haelwyd.[1][2] Bu'r ddau yn byw yn Rwanda am gyfnod ar ôl 2002, lle bu Mike (peiriannydd siartredig o ran ei alwedigaeth) yn gynghorydd i'r Llywodraeth yno.

Cafodd Colette a Mike Hughes eu henwebu am Wobr Dewi Sant yn y Dosbarth Rhyngwladol yn 2018. Yn 2019, i nodi 25 mlynedd ers yr hil-laddiad yn Rwanda, rhoddodd Colette a Mike araith gyweirnod o dan y pennawd 'Remembering Rwanda' mewn digwyddiad i nodi Dydd Coffa yr Holocost yn Neuadd Dinas Caerdydd, a chyflwynwyd gwobr Points of Light iddynt yr un flwyddyn.[3] Cafodd Colette hefyd ei henwi ar restr 'Brilliant, Black and Welsh: A celebration of 100 African Caribbean and African Welsh People' a gyhoeddwyd gan Wales Online yn 2018.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwobrau Dewi Sant - Mike a Colette Hughes". Cyrchwyd Gorffennaf 21, 2020.
  2. "Points of Light". Cyrchwyd Gorffennaf 21, 2020.
  3. "Wales comes together to mark Holocaust Memorial Day 2019". Cyrchwyd Gorffennaf 21, 2020.
  4. "Brilliant, Black and Welsh: A celebration of 100 African Caribbean and African Welsh People". Cyrchwyd Gorffennaf 21, 2020.