Hil-laddiad Rwanda
Hil-laddiad Rwanda, hefyd Rhyfel Cartref Rwanda yw'r term a ddefnyddir am y digwyddiadau yn Rwanda yn 1994. Ystyrir yn gyffredinol fod yr hyn a ddigwyddodd yn enghraifft o hil-laddiad. Amcangyfrifir fod rhwng 500,000 a miliwn o bobl wedi eu lladd.
Enghraifft o'r canlynol | hil-laddiad, gwrthdaro |
---|---|
Lladdwyd | 1,000,000 |
Dechreuwyd | 7 Ebrill 1994 |
Daeth i ben | 17 Gorffennaf 1994 |
Lleoliad | Rwanda |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyn y digwyddiadau hyn, roedd tua 90% o boblogaeth Rwanda yn perthyn i lwyth yr Hutu a 10% i lwyth y Tutsi. Roedd y berthynas rhwng y ddwy garfan wedi bod yn gwaethygu ym misoedd olaf 1993 a dechrau 1994, gyda gorsaf radio Radio Télévision Libre des Mille Collines yn annog yr Hutu i ymosod ar y Tutsi.
Dechreuodd y lladd ar 6 Ebrill 1994, pan saethwyd i lawr awyren yr oedd arlywydd Rwanda, Juvénal Habyarimana, ac arlywydd Bwrwndi, Cyprien Ntaryamira, yn teithio ynddi wrth iddi baratoi i lanio yn Kigali. Lladdwyd y ddau arlywydd. Mewn cyfnod o 100 diwrnod rhwng 6 Ebrill a chanol Gorffennaf, lladdwyd nifer fawr o'r Tutsi gan ddau filisia Hutu, yr Interahamwe a'r Impuzamugambi. Lladdwyd cryn nifer o Hutu oedd yn gwrthwynebu'r milisia hefyd.
Ni lwyddodd y milwyr oedd yn cynrychioli'r Cenhedloedd Unedig, yr UNAMIR, i atal y lladd, yn rhannol oherwydd ansicrwydd ynghylch mandad y milwyr. Arweiniodd hyn at feirniadaeth lem o'r Cenhedloedd Unedig. Rhoddwyd diwedd ar yr hil-laddiad gan y mudiad Tutsi Front Patriotique Rwandais (FPR), dan arweiniad Paul Kagame. Wedi iddynt gipio grym yn Rwanda, daeth Kagame yn Arlywydd.