Comin Creu
Sefydliad nid-er-elw yw Comin Creu (Saesneg: Creative Commons neu cc) a sefydlwyd gyda'r nod o ehangu'r ystod o weithiau creadigol sydd ar gael i'w rhannu'n gyfreithlon.[1]
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad di-elw, cyhoeddwr, awdur |
---|---|
Rhan o | free-culture movement |
Dechrau/Sefydlu | 15 Ionawr 2001 |
Yn cynnwys | Creative Commons Global Network |
Prif weithredwr | Ryan Merkley, Catherine Stihler, Anna Tumadóttir |
Sylfaenydd | Lawrence Lessig, Hal Abelson, Eric Eldred |
Aelod o'r canlynol | Communia, Open Source Initiative, Open Education Global, UNESCO Global Open Science Partnership |
Gweithwyr | 147 |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad di-elw |
Cynnyrch | trwyddedau Comin Creu |
Pencadlys | Mountain View |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://creativecommons.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r sefydliad wedi rhyddhau sawl trwydded hawlfraint i'r cyhoedd am ddim.
Gall y crewr, boed arlunydd, awdur neu arall, ddefnyddio un o nifer o'r trwyddedau hyn, yn ddibynol ar faint o hawliau mae'n dewis eu rhyddhau i bobl eraill. Nid yw'r trwyddedau'n cymryd lle hawlfraint, ond wedi'u sefydlu'n soled ar hawlfraint. Mae nhw'n cymryd lle yr angen i unigolion drafod a negydu hawliau arbennig - rhwng perchennog yr hawlraint (y trwyddedwr) a defnyddiwr y gwaith (y trwyddedig). Gall faint o hawliau a ryddheir amrywio o "Cedwir pob hawl" i drwydded hollol rydd lle nad yw perchennog y gwaith ddim yn dymuno arian am y defnydd o'r gwaith, na chydnabyddiaeth arall mewn unrhyw fodd. Mae bron y cyfan sydd ar Wicipedia a nifer o gyrff eraill yn dod o dan drwydded rhydd CC-BY-SA.[2]
Sefydlwyd y mudiad yn 2001 gan Lawrence Lessig, Hal Abelson, ac Eric Eldred[3] gyda chefnogaeth the Center for the Public Domain. Sgwennwyd yr erthygl gyntaf am Comin Creu gan Hal Plotkin yn Chwefror 2002.[4] Rhyddhawyd y set cyntaf o drwyddedau yn Rhagfyr 2002.[5][6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Frequently Asked Questions". Creative Commons. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2011.
- ↑ "Wikimedia Foundation Terms of Use". Cyrchwyd June 11, 2012.
- ↑ "Creative Commons: History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-23. Cyrchwyd 2011-10-09.
- ↑ Plotkin, Hal (11 February 2002). "All Hail Creative Commons Stanford professor and author Lawrence Lessig plans a legal insurrection". SFGate.com. Cyrchwyd 2011-03-08.
- ↑ "History of Creative Commons". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-13. Cyrchwyd 2009-11-08.
- ↑ Haughey, Matt (2002-09-18). "Creative Commons Announces New Management Team". creativecommons.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-07. Cyrchwyd 2013-05-07.