Comiwnyddiaeth y cyngor
Ffurf ar gomiwnyddiaeth a ddatblygodd yn y 1920au yw comiwnyddiaeth y cyngor. Dylanwadwyd ar y mudiad gan weithgarwch cynghorau gweithwyr yn ystod y chwyldroadau a gwrthryfeloedd ar draws Ewrop ym 1917–23. Yn groes i daliadau Bolsieficaidd Vladimir Lenin, prif arweinydd Chwyldro Rwsia (1917), mae comiwnyddiaeth y cyngor yn gwrthod strategaeth y blaid wrth arwain y chwyldro sosialaidd. Yn hytrach, mae'n arddel cyfundrefn economaidd a chymdeithasol ar sail rhwydwaith o gynghorau diwydiannol.[1]
Enghraifft o'r canlynol | ideoleg wleidyddol |
---|---|
Math | left communism |
Mae syniadaeth comiwnyddiaeth y cyngor yn tynnu ar Farcsiaeth yn bennaf, gyda dylanwadau anarchaidd cryf. Prif ddamcaniaethwr y mudiad oedd y seryddwr Iseldiraidd Anton Pannekoek.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Chris Cook, Macmillan Dictionary of Historical Terms, ail argraffiad (Llundain: Macmillan, 1990), t. 86.