Vladimir Lenin
Chwyldroadwr o Rwsia, arweinydd Chwyldro Hydref a Chadeirydd Cyngor Comisariaid y Bobl o 1917 tan 1924 oedd Vladimir Ilyich Lenin (Rwsieg Влади́мир Ильи́ч Ле́нин, trawslythrennu: Fladimir Lenin)[1], enw iawn Vladimir Ilyich Ul'yanov (Rwsieg: Влади́мир Ильи́ч Улья́нов; trawslythrennu: Fladimir Ilitsh Wlianof)[1] (10 / 22 Ebrill 1870 - 21 Ionawr 1924). Sefydlodd y Blaid Bolsiefic gan ei harwain at fuddugoliaeth yn chwyldroadau Rwsia. Ystyrir ef yn un o ffigyrau pwysicaf datblygiad Sosialiaeth wyddonol ynghyd â Karl Marx a Friedrich Engels. Ysgrifennodd nifer fawr o weithiau gwleidyddol ac athronyddol, a gelwir ei syniadaeth yn Leniniaeth.
Vladimir Lenin | |
---|---|
Ffugenw | Ленин, Ильин, Н. Ленин, Старик, К. Тулин, Lenin |
Llais | Lenin - What Is Soviet Power.ogg |
Ganwyd | Владимир Ильич Ульянов 22 Ebrill 1870 Ulyanovsk |
Bu farw | 21 Ionawr 1924 Bolshiye Gorki |
Man preswyl | Podolsk, St Petersburg, Moscfa, Shushenskoe, Schwabing, Llundain |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsiaidd, Yr Undeb Sofietaidd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, economegydd, cyfreithiwr, chwyldroadwr, newyddiadurwr, athronydd, damcaniaethwr gwleidyddol |
Swydd | Chairman of the Council of People's Commissars of the Russian SFSR, Chairman of the Council of People's Commissars, president of the Council of Labour and Defence of the USSR, Member of the Politburo of the CPSU Central Committee, Member of the Politburo of the CPSU Central Committee, Member of the Politburo of the CPSU Central Committee, legal document assistant |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Imperialism, the Highest Stage of Capitalism |
Prif ddylanwad | Karl Marx, Friedrich Engels, Georgi Plekhanov, Alexander Ivanovich Herzen, Georg Hegel, Karl Kautsky, Joseph Dietzgen, J. A. Hobson |
Taldra | 165 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Plaid Lafur Democrataidd-Sosialaidd Rwsia, Plaid Lafur Cymdeithasol Democrataidd Rwsia (Bolsiefic), Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd |
Mudiad | gwrth-imperialaeth, anti-capitalism, Marcsiaeth, class struggle |
Tad | Ilya Ulyanov |
Mam | Maria Ulyanova |
Priod | Nadezhda Krupskaya |
Llinach | Blank family |
Gwobr/au | Work order of Corasmia, honorary citizen of Kazan |
llofnod | |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Vladimir Ilyich Ulyanov ar 22 Ebrill 1870 yn Simbirsk. Roedd ei dad, Ilya Nikolaevich Ulyanov, yn athro mathemateg a ffiseg ac yn arolygydd ysgolion. Roedd ei deulu yn gymysg o ran cefndir ethnig: ei dad yn Kalmyk, ei fam o dras Almaenig, ac aelodau eraill y teulu yn Iddewon, yn Chuvashiaid, yn Rwsiaid ac yn Swediaid. Roedd teulu ei fam, Mariya Aleksandrovna Blank, yn hanu o Lübeck yn yr Almaen yn wreiddiol. Roedd ei dad-cu ar ochr ei fam yn Iddew a oedd wedi troi at Gristnogaeth Uniongred. Dienyddiwyd brawd hŷn Lenin, Aleksandr, yn 1887 oherwydd ei gysylltiad â chynllwyn i lofruddio Tsar Alexander III. Effeithiodd hyn yn fawr ar Lenin, a daeth yn fwy radicalaidd yn ei ddaliadau gwleidyddol. Yn yr un flwyddyn fe'i diarddelwyd o Brifysgol Kazan am gymryd rhan mewn protestiadau myfyrwyr ac ar ôl i'r heddlu ddarganfod y cysylltiad rhyngddo â'i frawd. Dychwelodd i'r brifysgol ym 1891 i gwblhau gradd yn y gyfraith.
Treuliodd gyfnod mewn alltudiaeth wleidyddol ym mhentref Shushenskoye, ger Minusinsk yn Siberia, o 1897 hyd 1900.
Llyfryddiaeth
golygu- Что делать? (1902)
- Шаг вперёд, два шага назад (1904)
- Материализм и эмпириокритицизм (1909)
- Y wladwriaeth a'r chwyldro (1917)
- Imperialaeth, Cyfnod uchaf Cyfalafiaeth (1917)
- Детская болезнь "левизны" в коммунизме (1920)
Astudiaethau
golygu- W. J. Rees, Lenin, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1981)