Compert Chon Culainn

Un o'r remscéla (chwedlau rhagarweiniol) i chwedl Táin Bó Cuailgne (Cyrch Gwartheg Cuailgne) yw Compert Chonn Culainn (Cenhedlu Cú Chulainn). Mae'n adrodd sut y cafodd yr arwr Cú Chulainn ei genhedlu (compert). Mae'n un o chwedlau Cylch Wlster.

Cedwir dau destun o'r chwedl yn y llawysgrif Wyddeleg Lebor na hUidre (Llyfr y Fuwch Llwyd-ddu) a sawl llawysgrif arall diweddarach.

Mae'r chwedl yn adrodd sut y cafodd Deichtir (neu Deichtine) chwaer y brenin Conchobar mac Nesa, brenin Wlster, ei beichiogi mewn modd dirgel ac esgor ar y plentyn Sétanta, sy'n tyfu i fyny i fod yn arwr mawr dan yr enw Cú Chulainn. Mewn un fersiwn o'r chwedl, yr hynaf efallai, enwir Lug mac Ethnenn yn dad i'r plentyn.

Cyfeiriadau

golygu

Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (1994; arg. newydd 1997), d.g. Compert Chon Culáinn.

Y testun

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.