Cúchulainn

(Ailgyfeiriad o Cú Chulainn)

Mae Cúchulainn (Gwyddeleg yn golygu "Ci Culann"); hefyd yn cael ei sillafu Cú Chulainn, Cú Chulaind, Cúchulain neu Cuchullain yn gymeriad ym mytholeg Iwerddon. Ei enw pan yn blentyn oedd Sétanta. Cúchulainn yw prif arwr Wlster yng Nghylch Wlster, sy'n adrodd hanes ymosodiad byddin Connacht ar Wlster.

Cúchulainn yn lladd ci Culann

Yn ôl y chwedl, ganwyd Cúchulainn yn Newgrange, beddrod Neolithig mwyaf Iwerddon. Yn gysylltiedig â'r Táin Bó Cúailnge ceir y remscéla Compert Chon Culainn, sy'n adrodd hanes cenhedlu'r Cú Chulainn. Setanta oedd ei enw pan yn fachgen. Pan ymosodwyd arno gan gi gwarchod ffyrnig y gôf Culann, lladdodd y bachgen y ci i'w amddiffyn ei hun. Pan welodd Culann yn galaru am golli ei gi, cynigiodd warchod ei dŷ yn lle'r ci tra byddai ci ifanc yn cael ei feithrin i gymeryd ei le, ac felly y cafodd yr enw Cúchulainn.

Pan oedd yn ddwy ar bymtheg oed, ymosododd byddin Medb, brenhines Connacht ar Wlster, a chofnodir yr hanes yn y Táin Bó Cúailnge. Roddwyd melltith ar wŷr Wlster i'w hanalluogi, a dim ond Cúchulainn a adawyd i wrthwynebu byddin Connacht. Lladdodd Cúchulainn bencampwyr Connacht un ar ôl y llall a'u gorfodi i encilio.

Yn y diwedd, lladdwyd Cúchulainn trwy i Medb gynllwynio gyda Lugaid, mab Cú Roí, Erc, mab Cairbre Nia Fer, a meibion gwŷr eraill yr oedd Cúchulainn wedi eu lladd. Roedd geas ar Cúchulainn, nad oedd i wrthod unrhyw bryd o fwyd a gynigid iddo, ac un arall nad oedd i fwyta cig ci. Cynigiodd ei elynion bryd o gig ci iddo, gan ei orfodi i dorri un o'r ddau.

Roedd gan Lugaid dair gwawyffon, ac roedd proffwydoliaeth y byddent yn lladd tri brenin. Taflodd y waywffon gyntaf, a lladdodd gerbydwr Cúchulainn, Láeg, brenin y cerbydwyr. Gyda'r ail lladdodd geffyl Cúchulainn, Liath Macha, brenin y ceffylau. Gyda'r trydydd, tarawodd Cúchulainn ei hun, brenin arwyr Iwerddon. Clymodd Cúchulainn ei hun wrth biler, fel y byddai'n wynebu ei elynion hyd yn oed wrth farw. Dim ond pan laniodd cigfran ar ei ysgwydd a dangos ei fod yn farw y meiddiai ei elynion ddynesu ato. Torrodd Lugaid ei ben, ond wrth iddo wneud hynny syrthiodd cleddyf Cúchulainn o'i law a thorri llaw Lugaid i ffwrdd.

Gweler hefyd

golygu