Konk-Kerne

(Ailgyfeiriad o Concarneau)

Mae Konk-Kerne (Ffrangeg: Concarneau) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Saint-Yvi, La Forêt-Fouesnant, Melgven, Trégunc ac mae ganddi boblogaeth o tua 20,607 (1 Ionawr 2021).

Konk-Kerne
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Br-Konk-Kerne-Y-M D-Wikikomzoù.flac Edit this on Wikidata
PrifddinasConcarneau Edit this on Wikidata
Poblogaeth20,607 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAndré Fidelin Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBielefeld, Pennsans Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Llydaw Llydaw
Arwynebedd41.08 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr6 metr, 0 metr, 106 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSant-Ivi, Ar Forest-Fouenant, Mêlwenn, Tregon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.8753°N 3.9189°W Edit this on Wikidata
Cod post29900 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Concarneau Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAndré Fidelin Edit this on Wikidata
Map

Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Mae gan y dref dwy adran benodol: y dref fodern ar y tir mawr a'r hen dref gaerog ganoloesol. Mae'r hen dref yn sefyll yng nghanol ynys oddi ar yr harbwr. Yn hanesyddol, bu'r hen dref yn ganolfan adeiladu llongau, ond bellach mae'n gartref i lawer o dai bwyta a siopau i ymwelwyr a thwristiaid.

Poblogaeth

golygu

 

Cysylltiadau Rhyngwladol

golygu

Mae Konk-Kerne wedi'i gefeillio â:

Digwyddiadau

golygu

Yn Awst bydd Konk-Kerne yn dathlu Gŵyl y Rhwydi Glas, sy'n cael ei enwi er clod y rhwyd las traddodiadol a arferid ei ddefnyddio gan fflyd bysgota'r ardal. Mae'r ŵyl yn ddathliad o ddiwylliant Llydewig a Pan-geltaidd. Gŵyl y Rhwydi Glas yw un o'r gwyliau hynaf a mwyaf o'r fath yn Llydaw gyda dros fil o gyfranogwyr mewn gwisg draddodiadol. Yn 2005, dathlwyd canmlwyddiant yr ŵyl.

Llenyddiaeth

golygu

Konk-Kerne oedd lleoliad y nofel Maigret a'r Cŵn Melyn (1931) gan yr awdur dirgelwch o Wlad Belg Georges Simenon

Henebion a Safleoedd o ddiddordeb

golygu

Yr hen dref

golygu

Amgueddfa Pysgota

golygu

Arlunwyr a darluniau

golygu

Mae nifer o arlunwyr amlwg wedi eu hysbrydoli gan Konk-Kerne a'r fro gan gynnwys Colin Campbell Cooper, Paul Signac, Michel Bouquet, Peder Severin Krøyer, William Lamb Picknell, Howard Russell Butler a llawer eraill

Gweler hefyd

golygu

Cymunedau Penn-ar-Bed

Cyfeiriadau

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: