Coolio
Roedd Artis Leon Ivey Jr. (1 Awst 1963 – 28 Medi 2022), a elwir yn broffesiynol fel Coolio, yn rapiwr, cynhyrchydd recordiau, ac actor o'r Unol Daleithiau. Roedd yn fwyaf adnabyddus am "Gangsta's Paradise" a enillodd Wobr Grammy ym 1995.[1]
Coolio | |
---|---|
Ffugenw | Coolio |
Ganwyd | Artis Leon Ivey Jr. 1 Awst 1963 Monessen |
Bu farw | 28 Medi 2022 o fentanyl toxicity Los Angeles |
Label recordio | Tommy Boy Records, Warner Bros. Records, Allied Artists Music Group |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | rapiwr, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau, actor, pen-cogydd |
Adnabyddus am | Gangsta's Paradise |
Arddull | West Coast hip hop, gangsta rap, G-funk |
Gwobr/au | Grammy Award for Best Rap Solo Performance |
Cafodd Coolio ei eni yn Monessen, Pennsylvania. Symudodd yn ddiweddarach i Compton, California.[2][3][4] Astudiodd yng Ngholeg Cymunedol Compton, ac wedyn bu’n gweithio mewn swyddi fel diffodd tân gwirfoddol a diogelwch mewn maes awyren.[2][5]
Recordiodd Coolio ei sengl gyntaf, o'r enw "Whatcha Gonna Do?" ym 1987. Priododd Josefa Salinas yn 1996, ac ysgarodd y cwpl yn 2000.[6] Bu farw mewn tŷ ffrind, yn 59 oed. Y gred oedd ei fod wedi dioddef trawiad ar y galon.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Shafer, Ellise (2022-09-29). "Coolio, Grammy-Winning 'Gangsta's Paradise' Rapper, Dies at 59". Variety (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Medi 2022.
- ↑ 2.0 2.1 Huey, Steve. "Coolio Biography". AllMusic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mehefin 2016. Cyrchwyd June 18, 2016.
- ↑ "Artis L Ivey California Birth Index". FamilySearch. Cyrchwyd 12 Chwefror 2017.
- ↑ Dasrath, Diana; Helsel, Phil (28 Medi 2022). "Rapper Coolio dead at 59". NBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Medi 2022.
- ↑ Sweet, Matthew (23 Awst 1997). "Golfa's Paradise; Interview: Coolio". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Awst 2016. Cyrchwyd 19 Mehefin 2016.
- ↑ "Coolio and his kids put the "real" in reality TV". The Seattle Times. 3 Tachwedd 2008. Cyrchwyd 29 Medi 2022.