Cynhyrchydd recordiau

Yn y diwydiant cerddorol, mae sawl cyfrifoldeb gwahanol gan gynhyrchydd recordiau. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli'r sesiynau recordio, hyfforddi a rhoi arweiniad i'r cerddorion, trefnu cyllid ac adnoddau cynhyrchu a goruwchwylio'r prosesau recordio, cymysgu a rhaglenni. Dyma fu prif swyddogaethau cynhyrchwyr recordiau ers i sain ddechrau cael ei recordio, er yn ystod ail hanner yr 20g, mae nifer o gynhyrchwyr wedi cymryd arnynt rôl mwy entrepreneuraidd.

Mewn rhai ffyrdd, gellir cymharu cynhyrchydd recordiau â chyfarwyddwr ffilm am fod swyddi'r ddau yn ymwneud â chreu, siapio a mowldio darn o gerddoriaeth yn unol â'u gweledigaeth ar gyfer yr albwm. Fodd bynnag, yn wahanol i fyd ffilmiau, pur anaml y bydd y cynhyrchydd recordiau'n gyfrifol am ariannu'r prosiect. Gan amlaf, cyflogir y cynhyrchydd recordiau gan bobl sydd â'r arian yn ei le'n barod (fel arfer y cwmnïau recordiau neu gyhoeddi, er weithiau gan yr artist ei hun.)

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.