Cwmni Americanaidd ydy'r Corbis Corporation, sydd a'i bencadlys yn Seattle, Washington, sy'n gwerthu a dosbarthu ffotograffiaeth a ffilm a hawliau cysylltiedig. Mae ganddynt gasgliad o dros 100 miliwn o luniau a llyfrgell fideo.

Corbis
Math o fusnes
cwmni preifat
Sefydlwyd1989
SefydlyddBill Gates
CadeiryddBill Gates
PencadlysSeattle
PerchnogionBill Gates
Lle ffurfioSeattle
Gwefanhttps://ben.productplacement.com/ Edit this on Wikidata

Mae Corbis yn berchen yn breifat i Bill Gates, a sefydlodd y cwmni ym 1989 dan yr enw Interactive Home Systems (enw a ddelir ar hyn o bryn gan gwmni hynach anghysylltiedig yn Concord, Massachusetts). Un o brif resymau Gates dros ddechrau'r cwmni oedd y gred y buasai pobl yn addurno eu tai yn y dyfodol gan ddefnyddio arddangosiad o arlunwaith digidol fuasai'n troelli gan ddefnyddio fframiau digidol.[1] Neidiodd enw'r cwmni i Continuum Productions ym 1994, ac i Corbis Corporation blwyddyn yn ddiweddarach. Mae "Corbis" yn air Lladin sy'n golygu "basgedgwiall", a oedd yn cyfeirio at y ffordd yr oedd y cwmni yn ystyried ei hun ar y pryd, feb storfa fyd-eang ar gyfer delweddau. Prynodd Archif Bettmann ym 1995, a gaiff ei storio 220 llath o dan y ddaear mewn ogof a gedwir yn oer, yn yr Iron Mountain storage facility.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Katie Hafner. "A Photo Trove, a Mounting Challenge", New York Times, 10 Ebrill 2007.
  2.  Under Iron Mountain. National Press Photographers' Association (4 Mehefin 2005).