Corfflu Awyr y Fyddin

Corfflu yn y Fyddin Brydeinig yw Corfflu Awyr y Fyddin (Saesneg: Army Air Corps; AAC).

Corfflu Awyr y Fyddin
Enghraifft o'r canlynolcorfflu, army aviation component Edit this on Wikidata
Rhan oy Fyddin Brydeinig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1957 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.army.mod.uk/who-we-are/corps-regiments-and-units/army-air-corps Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffurfiwyd Corfflu Awyr y Fyddin ym 1942 i reoli Catrawd y Peilotiaid Gleidrau a'r Gatrawd Barasiwt. Daeth y Gwasanaeth Awyr Arbennig (SAS) o dan oruchwyliaeth yr AAC hefyd ym 1944. Dadfyddinwyd yr AAC ym 1950, ond cafodd ei ailsefydlu ym 1957. Rhwng 1957 a 1973 daeth aelodau'r AAC o gatrodau eraill, ond ym 1973 dechreuodd recriwtio personél ei hun.

"Recce Flight" yw ymdeithgan gyflym yr AAC a "Thievish Magpie" sy'n seiliedig ar gerddoriaeth yr opera La gazza ladra gan Rossini yw'r ymdeithgan araf.[1]

Gwisgir beret gan yr holl rengoedd gyda'r bathodyn cap ar gefnyn o ffelt glas tywyll. Mae bathodyn cap yr AAC yn seiliedig ar fathodyn Catrawd y Peilotiaid Gleidrau, ac fe'i wneir o alwminiwm wedi ei anodeiddio. Mae bathodynnau'r swyddogion wedi eu brodio o wifr.[2]

Nodir gwisg Rhif 1 gan beret, peipiad o liw glas Caergrawnt ar strapiau'r ysgwyddau, a streipen ysgarlad lydan ar drowsus. Mae aelodau'r band yn gwisgo tiwnig las yn eu gwisg gyflawn gyda gyddfgrys dwbl-brest mewn arddull siacedi'r Corfflu Hedfan Brenhinol o 1912 hyd 1918.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006), t. 152.
  2. Ward, Arthur. British Army Cap Badges of the Twentieth Century (Ramsbury, The Crowood Press, 2007), t. 88.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: