Cornelius Cooper Johnson
Athletwr o'r Unol Daleithiau oedd Cornelius Cooper Johnson (28 Awst 1913 – 15 Chwefror 1946). Roedd yn arbenigo yn y naid uchel.
Cornelius Cooper Johnson | |
---|---|
Ganwyd | 21 Awst 1913 Los Angeles |
Bu farw | 15 Chwefror 1946 San Francisco |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Taldra | 191 centimetr |
Pwysau | 79 cilogram |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Ganwyd ef yn Los Angeles ym 1913, a chystadlodd Cornelius ("Corny") Johnson yn ei gystadleuaeth swyddogol trac a chae cyntaf yn Ysgol Uwchradd Iau Berendo.
Roedd Johnson ond 18 oed pan gynrychiolodd yr Unol Daleithiau yng Ngêmau Olympaidd yr Haf 1932, lle gorffennodd yn bedwerydd yn y naid uchel, o dan y rheolau "torri'r ddadl" a oedd yn bodoli ar y pryd. Os buasai'r rheolau wedi bod fel y maent heddiw, buasai wedi ennill y fedal arian.
Cystadlodd Johnson yng Ngêmau Olympaidd yr Haf 1936, roedd yn un o 19 o chwaraewyr Americaneg-Affricanaidd yno. Enillodd Johnson y naid hir gan osod record Olympaidd o 2.03 metr, ond roedd ei ymgais i dorri record y byd yn aflwyddiannus.
Enillodd Johnson record y naid hir y byd yn ddiweddarach yn 1936–1937, ac enillodd wyth bencampwriaeth cenedlaethol. Ar ôl ymddeol o athletau, daeth yn bostmon ar gyfer yr United States Postal Service yn Los Angeles, ac ym 1945 ymunodd â'r U.S. Merchant Marine.
Aeth Johnson yn wael gyda pneumonia bronchiaidd ym 1946, tra'n gweithio fel pobydd ar long "Santa Cruz" y Grace Line. Bu farw yn 32 oed wrth gael ei gludo o'r llong i ysbyty yng Nghaliffornia.
Sefydlwyd neuadd i enwogion o fyd athletau trac a chae yn enw Johnson yn yr Unol Daleithiau ym 1994.